Diwedd yr ymgynghoriad: 31/07/09
Y mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi lansio ymgynghoriad yn edrych ar sut y gall cymunedau lleol, yr heddlu, asiantaethau cyfiawnder troseddol lleol a phartneriaid lleol eraill weithio orau gyda’i gilydd i ostwng troseddau, codi hyder y gymuned, gwella gwybodaeth i bobl leol a lleihau’r ofn troseddau sy’n bod.
Y mae hefyd yn edrych ar yr hyn sy’n gwneud i bobl ymwneud â mynd i’r afael â phroblemau yn eu cymuned.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Gyfundrefn Cyfiawnder Troseddol.