Diwedd yr ymgynghoriad: 17/07/09
Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ynglŷn â’r Fanyleb Safonau Prentisiaeth ar gyfer Cymru (SASW).
Fe fydd y Fanyleb Safonau Prentisiaeth ar gyfer Cymru yn amlinellu’r gofynion y bydd yn rhaid i bob un Fframwaith Prentisiaeth cydnabyddedig yng Nghymru gydymffurfio â hwy. Fe fydd y Fanyleb Safonau Prentisiaeth ar gyfer Cymru yn disodli’r ‘Glasbrint’ anstatudol presennol ar gyfer Prentisiaethau, ac y mae mewn ymateb i’r ymrwymiadau a amlinellir yn Sgiliau sy’n Gweithio i Gymru, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2008.
Y mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.