Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r materion a godwyd yn y Papur Gwyrdd yw’r 26ain o Chwefror, 2010.
Y mae yna Bapur Gwyrdd ar ddiwygio cyfansoddiadol wedi’i lansio yn y Senedd i danio dadl genedlaethol am ddyfodol hawliau a chyfrifoldebau.
Y mae’r papur yn archwilio a ddylai’n hawliau a’n cyfrifoldebau gael eu tynnu ynghyd mewn un lle, efallai mewn Mesur Hawliau a Chyfrifoldebau, fel eu bod yn hygyrch iawn ac yn hawdd eu deall. Y mae’n awgrymu ystod o bynciau y gellid eu cwmpasu gan y cyfryw Fesur, yn cynnwys cydraddoldeb, gweinyddu da, lles plant, gofal iechyd, cyfiawnder troseddol, hawliau dioddefwyr a’r amgylchedd.
Fe ellir lawrlwytho’r Papur Gwyrdd oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.