Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
    » Ymgynghoriadau
    Adroddiadau ar Ymatebion i Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • Cyfranogi
  • Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
  • Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
  • Lloegr, San Steffan a Whitehall
  • Gogledd Iwerddon
  • Yr Alban

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Polisi »Ymgynghoriadau »Ymgynghoriadau »Siarad â fi: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2008-2013, 04/11/08 [C]
Siarad â fi: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed yng Nghymru 2008-2013, 04/11/08 [C]

Diwedd yr ymgynghoriad: 30/01/09

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn ymgynghori ar gynllun gweithredu ddrafft i ostwng hunanladdiad a hunan-niweidio.

Mae’r cynllun yn sefydlu nifer o fentrau newydd ac mae’n tynnu at ei gilydd y rhaglenni sy’n bodoli eisoes er mwyn darparu dull strategol o fynd i’r afael ag atal hunanladdiad yng Nghymru.

Dengys ystadegau nad yw bron i dri chwarter o bobl yng Nghymru sy’n cyflawni hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl yn y flwyddyn cyn eu marwolaeth.

Felly, mae’r prif nodau yn cynnwys codi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl ar draws y gymdeithas ehangach ac yn dod o hyd i ffyrdd o helpu’r rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed.

Mae’r mentrau newydd yn cynnwys y canlynol:

  • cyflwyno rhaglen hyfforddi i weithwyr rheng flaen ledled Cymru fel bod gan staff yn y sectorau sy’n cynnwys iechyd, addysg, canolfannau gwaith, yr heddlu a’r gwasanaeth carchardai y sgiliau sydd eu hangen arnynt i ganfod gofid meddyliol a’u galluogi i ddarparu neu i awgrymu cymorth;
  • ymestyn rhaglen hyfforddi arbenigol sy’n cael ei chydnabod yn rhyngwladol ledled Cymru i hyfforddi gofalwyr fel eu bod yn gallu atal unrhyw risg uniongyrchol o hunanladdiad;
  • darparu gwasanaeth negeseuon ar hyd a lled Cymru, 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos dros y ffôn ac ar ffurf neges testun i bobl sy’n dioddef o broblemau iechyd meddwl;
  • sefydlu swydd cydgysylltydd cenedlaethol cyntaf y Samariaid yng Nghymru i reoli gwasanaethau gwirfoddol ar hyd a lled Cymru;
  • gweithio gyda rhaglenni sy’n cael eu hariannu gan y loteri i ddarparu mwy o help i grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd ac sydd mewn risg fel rhaglenni allgymorth i bobl sy’n cysgu allan ar y stryd a phobl sy’n ddigartref.

Fe ellir lawrlwytho’r cynllun gweithredu oddi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313