Diwedd yr ymgynghoriad: 25/11/08
Y mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein ynglŷn â sut y dylai polisi ieuenctid yr Undeb Ewropeaidd ddatblygu yn y dyfodol.
Y mae’r ymgynghoriad yn ceisio ag ateb cwestiynau ynglŷn â’r prif heriau neu gyfleoedd a gaiff yr effaith fwyaf uniongyrchol ar bobl ifanc. Fe fydd yr holiadur yn ymdrin â materion yn ymwneud ag addysg a dysgu anffurfiol, cyflogaeth, camwahaniaethu, integreiddio cymdeithasol a gweithgareddau gwirfoddol pobl ifanc. Fe fydd canlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu hystyried gan y llunwyr polisïau yn Ewrop er mwyn paratoi mesurau pendant i gynorthwyo pobl ifanc i integreiddio i gymdeithas, canfod gwaith, gwella’u lles cyffredinol ac i ddod yn gysylltiedig â chymdeithas fel dinasyddion.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Europa.