Diwedd yr ymgynghoriad: 28/11/08
Y mae’r Swyddfa Gartref wedi lansio adolygiad sydd â’r nod o gael gwybod gan yr heddlu a’r sawl sy’n gweithio gyda hwynt, yn ogystal â’r cyhoedd, a yw’r Ddeddf a’r codau ymarfer yn dal yn briodol, yn gymesur, ac yn berthnasol i’r gyfundrefn cyfiawnder troseddol.
Y mae’r adolygiad yn cynnig caniatáu i swyddogion yr heddlu holi plant heb fod eu rhieni, gwarcheidwad neu berthynas arall yn bresennol, a newidiadau i hawliau stopio a chwilio a fyddai’n disodli ffurflenni sydd angen ysgrifen â llaw gan ddod â thechnoleg cyfrifiadur yn y llaw, a fydd yn rhoi derbynneb i’r person a stopiwyd, yn eu lle.
Fe ellir lawrlwytho’r ddogfen oddi ar wefan y Swyddfa Gartref.