Diwedd yr ymgynghoriad: 20/10/08
Y mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer diwygio amddiffyniadau rhannol yn erbyn llofruddiaeth o gyfrifoldeb lleihaëdig a chythrudd, ac o’r gyfraith ar gydgynllwynio yn gysylltiedig â lladdiad a babanladdiad.
Fe fydd y newidiadau yn golygu dileu’r amddiffyniad rhannol presennol o gythrudd a rhoi yn ei le ddau amddiffyniad rhannol newydd o ladd mewn ymateb i ofn trais difrifol ac mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, lladd mewn ymateb i eiriau ac ymddygiad a achosodd i’r diffynnydd gael ymdeimlad cyfiawnadwy o gael camwri difrifol.
Y mae rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.