Diwedd yr ymgynghoriad: 22/10/08
Y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn ymgynghori ynglŷn â Phapur Gwyrdd Diwygio Lles sy’n cynnig y bydd yn rhaid i bobl sy’n ddi-waith am fwy na dwy flynedd weithio’n llawn amser yn y gymuned.
Y mae hefyd yn cynnwys cynlluniau i ddileu budd-dal analluogrwydd, a dim ond y sawl "sydd â’r anghenion mwyaf" a gaiff eu heithrio rhag cael eu disgwyl i ganfod gwaith. Y mae mesurau eraill yn cynnwys peidio â chymryd taliadau cynhaliaeth plant i ystyriaeth wrth gyfrifo faint o fudd-dal y dylai rhieni di-waith eu derbyn a mynnu bod rhieni unigol yn canfod gwaith unwaith y bydd eu plentyn ieuengaf yn cyrraedd pum mlwydd oed.
Y mae’r ddogfen ymgynghori ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran Gwaith a Phensiynau.