Y mae’r Weinyddiaeth Cyfiawnder wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a dderbyniwyd i’r ymgynghoriad ar y Cynllun Gweithredu ar Droseddau Ieuenctid.
Fe wnaeth y Cynllun nodi ymagweddiad triphlyg tuag at fynd i’r afael â throseddau ieuenctid: gorfodi a chosbi ble y mae ymddygiad yn annerbyniol; cymorth a her nad ydynt yn agored i drafodaeth ble y mae’i angen fwyaf; ac ymyrraeth gynharach.
Yr oedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 11 o gwestiynau, ac fe dderbyniwyd 86 o ymatebion.
Y mae’r crynodeb yn amlinellu ymateb cychwynnol y llywodraeth i’r materion a godwyd. Maes o law, fe fydd y llywodraeth yn adrodd ar gynnydd ynglŷn â chyflawni’r ymrwymiadau yn y cynllun gweithredu a’r camau nesaf.
Y mae’r ddogfen ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan y Weinyddiaeth Cyfiawnder.