Y mae Plant yng Nghymru yn ymgymryd ag ystod o waith yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Gyfunol ac yn rhyngwladol er mwyn dylanwadu ar bolisïau sy’n effeithio ar blant. Y mae’r gwaith hyn yn cynnwys:
CynrychioliY mae Plant yng Nghymru yn cael eu cynrychioli naill ai gan aelodau staff neu gan aelodau cysylltiol ar ystod eang o bwyllgorau a chyrff sy’n gallu effeithio ar ddatblygiad polisi. Fe allwch ganfod ar ba gyrff y mae Plant yng Nghymru yn cael eu cynrychioli ar ein tudalen Cynrychioli. Cyngor Partneriaeth y Trydydd SectorUn o’r cyrff y mae Plant yng Nghymru yn eistedd arno yw Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol ble y mae Plant yng Nghymru yn cynrychioli sector gwirfoddol y plant yng Nghymru. Fel rhan o’r gwaith hyn, y mae cynrychiolwyr Plant yng Nghymru yn mynychu cyfarfodydd arbennig gyda Gweinidogion. Fe allwch ganfod mwy o wybodaeth am yr holl waith hyn yn ein hadran ar Cyngor Partneriaeth y Trydydd SectorGweithio gyda Mudiadau Gwirfoddol eraill dros Blant Y mae Cyfarwyddwyr Polisi y mudiad Plant yng Nghymru yn cyfarfod yn rheolaidd gyda swyddogion polisi o fudiadau gwirfoddol mawr eraill dros blant yng Nghymru, yn enwedig Barnardos Cymru, Action for Children – Gweithredu dros Blant, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, ac Achub y Plant. Gyda’i gilydd, y mae’r grwp hwn yn ymgyrchu dros amryw o faterion, y mae’n darparu gwybodaeth i wleidyddion yn ystod cynadleddau’r pleidiau a digwyddiadau eraill, ac y mae’n gweithio ar brosiectau megis.YmgynghoriadauY mae Plant yng Nghymru yn ymateb i amryw o ymgynghoriadau ynglyn â materion sy’n berthnasol i blant a phobl ifanc. Fe all aelodau o Plant yng Nghymru ddefnyddio’r wefan hon i gyfrannu i ymatebion Plant yng Nghymru. YmgyrchoeddY mae Plant yng Nghymru yn gysylltiedig ag amryw o ymgyrchoedd yn ymwneud â materion neilltuol. Y mae’r rhain yn cynnwys ymgyrchoedd megis yr 'Sdim Curo Plant a’r Rhwydwaith Rhoi Diwedd ar Dlodi Ymysg Plant.