Mae Estyn, yr arolygiaeth dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru, wedi lansio adroddiad sy’n ystyried pobl ifanc yn cael dweud eu dweud mewn ysgolion.
Fe wnaeth yr adroddiad, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, ffeindio bod dim ond mewn ychydig o ysgolion y mae effaith cyngor yr ysgol yn sylweddol. n y mwyafrif o ysgolion, mae effaith cyngor yr ysgol wedi’i chyfyngu i ddylanwadu ar benderfyniadau ynglŷn â threfniadau ymarferol, fel materion yn ymwneud â gwisg ysgol, cyfleusterau toiled a dewisiadau bwyd.
Fe wnaeth yr adroddiad hefyd ffeindio bod dim ond lleiafrif o’r ysgolion y gwnaeth Estyn arolwg ohonynt sydd wedi penodi disgyblion i fod yn aelodau o’r corf llywodraethol, yn unol â’r rheoliadau statudol, ac mae’n argymell y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ddarparu arweiniad pellach i ysgolion ar rôl disgybl-lywodraethwyr cyswllt.
Fe ellir lawrlwytho’r adroddiad oddi wrth wefan Estyn.