Y mae Ymddiriedolaeth Carnegie wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dweud mai plant ac oedolion ieuainc yw’r lleiafrif olaf ym Mhrydain y camwahaniaethir yn rheolaidd yn eu herbyn.
Grymuso Pobl Ifanc yw adroddiad olaf Menter Pobl Ifanc Carnegie, a gynhaliwyd rhwng 1996 a 2007.
Y mae’r Ymddiriedolaeth yn credu mai prin fod agweddau tuag at bobl iau wedi newid ers i’r Deyrnas Unedig dderbyn Cytundeb y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn 1991 a bod angen cymryd camau sylfaenol i unioni’r cydbwysedd.
Y mae’r adroddiad yn galw ar y llywodraeth i ystyried sefydlu dosbarth proffesiynol newydd i weithio gyda phobl ifanc i’w hintegreiddio hwynt gyda gweddill cymdeithas, ac y mae hefyd yn feirniadol o bortreadau negyddol o blant a phobl ifanc yn y cyfryngau.
Y mae’r adroddiad ar gael i’w lawrlwytho oddi ar wefan Ymddiriedolaeth Carnegie