Cartref
|
Map o'r Safle
|
Telerau ac Amodau
|
Cysylltu a Ni
|
English
Aelodaeth
|
Newyddion
|
Amdanom Ni
|
Ein Gwaith
|
Meysydd Gwaith
Cyhoeddiadau
|
Digwyddiadau
|
Polisi
|
Yn Eich Ardal
|
Confensiwn y CU
|
Cysylltiadau
Chwilio
Cofnodwch eich term chwilio
Chwilio Manwl
Aelodau i Fewngofnodi
Enw Defnyddiwr
Cyfrinair
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma
Is-Dudalennau
Sut i Ddefnyddio Gwefan Polisi Plant yng Nghymru
Newyddion Polisi
Ymgynghoriadau
Dogfennau
Deddfwriaeth
Trafodion
Cyfranogi
Adnoddau Cyfranogi
»
Barn Plant a Phobl Ifanc
Cyflwyniad i Bolisi fesul Pwnc
Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi
E-gyfarwyddiad
Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
Ynglyn â Rhwydwaith Polisi Plant 4 Cenedl
Lloegr, San Steffan a Whitehall
Gogledd Iwerddon
Yr Alban
Archif/Cyfredol
Blwyddyn Archifol
[currentdocuments]
Y Blynyddoedd i Gyd
Cyn-2002
2002
2003
2004
2005
2006
2007
2008
2009
Yr ydych yn :
Polisi
»
Cyfranogi
»
Barn Plant a Phobl Ifanc
»
A ydych chi’n Gwrando? Adroddiad Ymgynghorol, 10/12/2003 [C]
A ydych chi’n Gwrando? Adroddiad Ymgynghorol, 10/12/2003 [C]
Rhwng mis Ebrill a mis Awst, 2003, fe gomisiynwyd Barnardo's ac NCH Cymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i ymgymryd ag ymgynghoriad cenedlaethol gyda phlant a phobl ifanc anabl i ganfod eu barn am y gwasanaethau y maent yn eu defnyddio, ac argymhellion ar gyfer newidiadau i wasanaethau iechyd, addysg, gofal cymdeithasol a hamdden ledled Cymru. Fe gaiff y canfyddiadau eu defnyddio i hysbysu amcanion Plant yn Gyntaf, y Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Plant a datblygiadau ehangach o ran polisi.
Fe ymgynghorwyd â 105 o blant a phobl ifanc o 5 i 25 mlwydd oed drwy amryw o wahanol ddulliau gan gynnwys cyfweliadau, cardiau mynegiant a dulliau gwneud lluniau ac ysgrifennu. Yr oedd y sampl yn cynnwys plant a phobl ifanc gyda rhychwant o wahanol anableddau ac anghenion arbennig.
Fe wnaeth y negeseuon a ganlyn ddeillio o'r broses:
Agweddau ac ymddygiad staff
- O gryn dipyn, dyma a gafodd yr effaith fwyaf ar brofiadau plant a phobl ifanc anabl o ran cael mynediad at wasanaethau ac yr oeddynt yn gosod pwysigrwydd sylweddol ar gael pobl i wrando arnynt, i siarad â hwynt ac i'w trin gyda dealltwriaeth a pharch;
Darparu gwybodaeth
- Yr oedd hi'n amlwg bod yna fylchau o ran dealltwriaeth y plant a'r bobl ifanc o'u hanabledd; gofal a thriniaeth; swyddogaethau a chyfrifoldebau staff; y gwasanaethau y maent yn eu derbyn a'r gwasanaethau sydd ar gael iddynt;
Mynediad a Chaffaeladwyedd
- Y mae yna o hyd sawl her yn wynebu plant a phobl ifanc anabl sydd am gael mynediad at wasanaethau, gyda'r rhwystrau yn rhai o natur corfforol ac o ran agwedd;
Cyfranogi
- Nid yw cyfranogiad plant a phobl ifanc anabl o ran gwneud penderfyniadau am eu gofal a'u triniaeth yn gyson ledled y gwasanaethau.
Y mae'r adrannau 'negeseuon allweddol' drwy'r adroddiad i gyd yn darparu crynodeb llawn o'r prif ganfyddiadau.
Fe ellir llwytho'r adroddiad oddi ar wefan y Cynulliad.
Dolenni Cysylltiol
Are you Listening? Consultation Report
Children’s National Service Framework