Fe all Senedd y Deyrnas Unedig wneud math arbennig o ddeddfwriaeth ar gyfer Cymru, o’r enw Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Y mae’r gorchmynion hyn yn rhoi’r pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Mesurau Cynulliad ynglŷn â rhai testunau. Fe gaiff Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol eu gosod gerbron y Senedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a’u cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad. Y mae mwy o wybodaeth am Gymwyseddau Deddfwriaethol ar gael yn adran Pwerau Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.