Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion Polisi
  • Ymgynghoriadau
  • Dogfennau
  • Deddfwriaeth
  • Trafodion
  • E-gyfarwyddiad
  • Plant yng Nghymru yn Dylanwadu ar Bolisi
  • Cyfarwyddiadau
  • Canllaw i’r Broses Llunio Polisi a Strwythurau ar gyfer Plant
    • Llunio Polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    • Llunio Polisi yn San Steffan

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Deddfau a Mesurau
Deddfau a Mesurau

Big Ben

Y mae Senedd y Deyrnas Unedig yn pasio amrywiaeth o Ddeddfau bob blwyddyn sy’n effeithio ar Gymru. Y mae i ba raddau y mae Deddfau a basir yn San Steffan yn effeithio ar Gymru yn amrywio o Ddeddf i Ddeddf. Y mae rhai Deddfau yn ymwneud â phob un o bedair cenedl y Deyrnas Unedig, ac y mae rhai ond yn ymwneud â Chymru a Lloegr. Y mae newidiadau i bwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, yn galluogi’r Cynulliad i ddeddfu ar fwy o faterion. Oherwydd hyn, fe all fod yna ostyngiad yn y graddau y mae rhai Deddfau yn gymwys i Gymru.

Nid yw rhai meysydd pwnc wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Y mae’r rhain yn cynnwys cyfiawnder, y llysoedd, budd-daliadau a threthiant. Y mae Deddfau sydd yn ymwneud i raddau pell â’r meysydd hyn yn tueddu i gwmpasu Cymru.

Sut y mae Mesurau yn Pasio ar eu Hynt drwy’r Senedd.

Cyn y daw Deddf yn gyfraith, fe’i hadwaenir fel Mesur. Fe gyfeirir at Fesurau cyffredinol eu heffaith fel Mesurau Cyhoeddus ac fe ellir eu cyflwyno yn y Senedd gan Weinidog y Llywodraeth neu gan AS o’r meinciau cefn. Fe elwir mesurau a gyflwynir gan Aelodau Seneddol o’r meinciau cefn yn Fesurau Aelodau Preifat. Fe ellir cyflwyno mesurau yn naill ai Ty’r Cyffredin neu Dy’r Arglwyddi. O ganlyniad i gyfyngiadau amser, dim ond nifer cyfyngedig o Fesurau Aelodau Preifat a gyflwynir yn Nhy’r Cyffredin bob blwyddyn.

Unwaith y bydd wedi’i gyflwyno yn y Senedd, y mae’n rhaid i Fesur fynd drwy amrywiol gamau. Fe ddengys yr enghraifft a ganlyn sut y mae mesur a gyflwynir yn Nhy’r Cyffredin yn mynd ar ei hynt. Pe bae Mesur yn cael ei gyflwyno Nhy’r Arglwyddi, yr un yw’r broses, ond y mae’n rhaid i gamau Ty’r Cyffredin oll gael eu cyfnewid am gamau Ty’r Arglwyddi, ac yn y drefn arall.

Ty’r Cyffredin

  • Darlleniad Cyntaf – dyma sy’n cyflwyno’r Mesur mewn modd ffurfiol i’r Ty ond ni cheir dadl arno ar hyn o bryd
  • Ail Ddarlleniad – dyma’r cyfle i drafod y Mesur yn llawn yn y Ty
  • Cam y Pwyllgor – Y mae Mesurau yn cael eu cyfeirio i’r pwyllgor ar gyfer archwiliad cymal wrth gymal ac fe gaiff gwelliannau iddynt eu cynnig. Y mae yna wahanol fathau o Bwyllgorau yn San Steffan drwy’r hyn y gall y cam hyn ddigwydd
  • Cam yr Adroddiad – Yn dilyn trafod y Mesur yn y Pwyllgor, y mae’r Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad o’i benderfyniad er mwyn i’r Ty i gyd gael ei ystyried
  • Trydydd Darlleniad – Fe ddigwydd hyn yn aml yn uniongyrchol ar ôl Cam yr Adroddiad ac y mae’n gyfle i’r Ty i gyd gael trafod y Mesur yn ei ddiwyg cyfredol.

Ty’r Arglwyddi

  • Darlleniad Cyntaf – fe gyflwynir y Mesur yn ffurfiol i Dy’r Arglwyddi
  • Ail Ddarlleniad – fe gaiff Ty’r Arglwyddi gyfle i drafod y Mesur yn llawn
  • Cam y Pwyllgor – fe gaiff y Mesur ei ystyried gan Bwyllgor yn Nhy’r Arglwyddi
  • Cam yr Adroddiad – y mae’r Pwyllgor yn adrodd ei benderyniadau ynglyn â’r Mesur er mwyn i’r Ty i gyd gael eu hystyried
  • Trydydd Darlleniad – Cyfle arall i’r Ty i gyd gael trafod y Mesur yn ei ddiwyg cyfredol. Yn Nhy’r Arglwyddi, fe ellir gwneud gwelliannau yn ystod y cam hyn
  • Cytundeb gan y ddau Dy – ar ôl cwblhau’i daith drwy’r ddau Dy, fe fydd yn rhaid i Dy’r Cyffredin (neu Dy’r Arglwyddi, os mai yno y cychwynnodd) gytuno ar y Mesur yn ei ddiwyg cyfredol. Nod hyn yw sicrhau bod y ddau Dy yn cytuno ar unrhyw welliannau a wnaed cyn y bydd y Mesur yn cael Cydsyniad Brenhinol. Weithiau, fe fydd Mesur yn cynnwys gwelliannau dadleuol ac fe all y Mesur fynd o’r naill Dy i’r llall lawer gwaith cyn y ceir cytundeb. Os na cheir cytundeb o gwbl, yna fe gollir y Mesur.
  • Cydsyniad Brenhinol – unwaith y bydd Mesur wedi cwblhau’r camau i gyd, y mae’n derbyn Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines ac yn dod yn Ddeddf.

Is-ddeddfwriaeth yn San Steffan

Y mae gan San Steffan hefyd y grymoedd i lunio is-ddeddfwriaeth mewn meysydd nad ydynt wedi’u datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Dolenni Cysylltiol

Mynegai Mesurau
Y mae gwefan y Mynegai Mesurau yn darparu manylion ynglyn â phob un o’r cyfnodau y mae mesur sydd ar ei hynt drwy’r Senedd wedi’i gyrraedd.
Gweithdrefnau Mesurau yn y Senedd
Fe rydd y dudalen hon sydd ar wefan y Senedd ragor o fanylion ynglyn â’r gweithdrefnau y mae mesurau yn eu dilyn fel yr ânt ar eu hynt drwy’r Senedd.
Mesurau Sydd Ar Hyn o Bryd Ger Bron y Senedd
Dyma restr o Fesurau sydd ar hyn o bryd ger bron y Senedd ac o ble y gallwch lwytho cynnwys pob mesur a nodiadau esboniadol ar ei gyfer.
Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
Fe ellir llwytho cynnwys Deddfau Seneddol ac Offerynnau Statudol oddi ar wefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
Deddfwriaeth Cymru Ar-lein (Wales Legislation Online)
Y mae’r wefan hon yn darparu manylion ynglyn â pha rymoedd sydd wedi’u rhoi i’r Cynulliad gan Ddeddf Seneddol benodol
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Deddfau a Mesurau

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence