Cynllun y Sector Gwirfoddol
Yn unigryw i Gymru, o dan ddarpariaethau Deddf Llywodraeth Cymru 1998, y mae Cynllun y Sector Gwirfoddol yn amlinellu sut y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn bwriadu hyrwyddo buddiannau mudiadau gwirfoddol. Y mae’n amlinellu’r egwyddorion cyffredinol a’r gwerthoedd cyffredin sy’n gosod sylfaen gadarn i’r berthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol a’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Y mae’r penodau allweddol yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth a threfniadau ymarferol ar gyfer ymgom a chydweithredu rhwng y sector gwirfoddol a’r Cynulliad (drwy Gyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol a Chyfarfodydd Gweinidogol). Ymrwymiad allweddol yn y Cynllun yw y bydd y Cynulliad yn cynnal Côd Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Sector Gwirfoddol. Y mae hyn yn nodi’r egwyddorion allweddol sy’n gosod sylfaen i gyllid y Cynulliad ar gyfer y sector gwirfoddol a’r hyn y mae’r Cynulliad yn ei ddisgwyl yn dâl am hyn.
Fe ellir lawrlwytho Y Trydydd Dimensiwn – Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Cynllun y Sector Gwirfoddol oddi wrth wefan WCVA.
Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol
Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC) yw’r corff allweddol sy’n galluogi’r sector gwirfoddol a’r Cynulliad Cenedlaethol i gyfathrebu ynglyn â materion allweddol. Ei ddiben yw sicrhau bod yr egwyddorion a nodir yng Nghynllun y Sector Gwirfoddol yn cael eu gweithredu. Y mae’r cyfarfodydd, a gynhelir yn chwarterol, yn rhoi cyfle i aelodau’r sector gwirfoddol grybwyll materion o ddiddordeb neu o bryder wrth Aelodau a Gweinidogion y Cynulliad.
Plant yng Nghymru yw’r mudiad cynrychiadol ar gyfer sector gwirfoddol y "Plant a Theuluoedd" ar Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector, a Catriona Williams, y Prif Weithredwr, sy’n mynychu fel arfer. Y mae Plant yng Nghymru yn dymuno datblygu unrhyw fater yr hoffech chi iddynt dderbyn sylw yng nghyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol neu yng nghyfarfodydd y Sector Gwirfoddol gyda Gweinidogion yn y dyfodol. I hwyluso’r broses hon, y mae Siân Thomas, E-Bost: sian.thomas@childreninwales.org.uk yn gweithredu fel person cyswllt i gasglu ac i gyfosod eich safbwyntiau er mwyn i Plant yng Nghymru gael mynd â hwynt ymlaen. Lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflen yma er mwyn ddod yn aelod o'r Rhwydwaith Plant a Theuluoedd.
Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Y mae gwybodaeth am bob un o gyfarfodydd diweddar Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol ar gael ar dudalen Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector sydd ar adran Trafodion y wefan.Y mae holl gyfarfodydd TSPC yn agored i’r cyhoedd. Os hoffech fod yn bresennol cysylltwch ag y Cynulliad ar 029 20898 477 neu E-bost: assembly.bookings@wales.gsi.gov.uk.
Bydd cyfarfod nesaf y CPyTS ar 12 Mawrth 2009 ym Mhowys.
Cyfarfod diwethaf y CPyTS oedd ym Merthyr Tudful ar 6 Tachwedd 2008. Bydd cofnodion y cyfarfod ar gael ar y tudalennau Polisi ac Ymchwil yn www.wcva.org.uk. Am ragor o wybodaeth am waith Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol a Chynllun y Sector Gwirfoddol, cysylltwch â Mirriam Nasrat (mnasrat@wcva.org.uk)
Cyfarfodydd GweinidogolY mae Cynllun y Sector Gwirfoddol o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfarfodydd ddwywaith y flwyddyn rhwng cynrychiolwyr rhwydweithiau perthnasol y sector gwirfoddol a phob un o Weinidogion y Cabinet gan gwmpasu eu meysydd cyfrifoldeb. I gael manylion am Weinidogion y Cabinet a’u cyfrifoldebau, ymwelwch â gwefan y Cynulliad. Y mae’r cyfarfodydd yn cael eu cynnal ddwywaith y flwyddyn, sef yn y gwanwyn ac yn yr hydref. Y mae’r sector gwirfoddol a Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gosod eitemau ar yr agenda sy’n berthnasol i’r cyfarwyddyd gweinidogol ac sy’n rhoi sylw i faterion cyffredinol sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol. Nid ydyw’n bosibl trafod materion sy’n ymwneud â mudiadau unigol yn y cyd-destun hwn. Cyfarfodydd Nesaf:
Y mae Plant yng Nghymru yn awyddus i gamu ymlaen gydag unrhyw faterion cyffredinol sy’n ymwneud â’r sector gwirfoddol yr hoffech chi iddynt dderbyn sylw yng nghyfarfodydd y Sector Gwirfoddol gyda Gweinidigion yn y dyfodol. I ddechrau, cysylltwch ag Siân Thomas, E-bost: sian.thomas@childreninwales.org.uk, a wnâ gasglu a chyfosod eich safbwyntiau ar gyfer y cyfarfodydd.