Swyddfa Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru sy'n gyfrifol am ei weithrediad esmwyth. Y Llywydd sy'n cadeirio sesiynau llawn y Cynulliad. Ef sydd hefyd yn gyfrifol am ddehongli'r Rheolau Sefydlog, y fframwaith cyfreithiol sy'n rheoleiddio gweithdrefnau'r Cynulliad. Cefnogir y Llywydd gan Ddirprwy Lywydd.