Y mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud math newydd o ddeddfwriaeth, a adwaenir fel Mesurau’r Cynulliad. Fe all Mesurau’r Cynulliad, gyda rhai cyfyngiadau, wneud darpariaethau yng Nghymru mewn ffordd gyffelyb i Ddeddfau Seneddol.
Cyn y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Mesur Cynulliad ynglŷn ag unrhyw destun neilltuol, y mae’n rhaid iddo yn gyntaf gael Cymhwysedd Deddfwriaethol i wneud hynny. (Y mae mwy o wybodaeth am y weithdrefn ar gyfer cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ar gael yn yr adran ar Gymwyseddau Deddfwriaethol). Y mae’r Cymhwysedd Deddfwriaethol yn diffinio’r testunau neu’r Materion y mae gan y Cynulliad y pŵer i basio Mesurau’r Cynulliad arnynt. Fe all y Cynulliad ond cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ar unrhyw Fater gyda chymeradwyaeth Senedd y Deyrnas Unedig.
Unwaith y bydd Cymhwysedd Deddfwriaethol wedi’i gael ar Fater neilltuol, yna fe fydd y Mater hwnnw’n cael ei ychwanegu at Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Y mae Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru yn cynnwys rhestr o’r ugain o feysydd pwnc a ddatganolwyd. Y rhain yw:
Addysg a Hyfforddiant Amaethyddiaeth, pysgodfeydd, coedwigaeth a datblygu gwledig BwydCynllunio Gwlad a Thref Cynulliad Cenedlaethol CymruChwaraeon a HamddenDatblygu Economaidd DiwylliantDŵr ac Amddiffynfa rhag Llifogydd Gweinyddiaeth GyhoeddusHenebion ac Adeiladau Hanesyddol Iechyd a Gwasanaethau Iechyd Lles Cymdeithasol Llywodraeth Leol Priffyrdd a Thrafnidiaeth Tai Twristiaeth Y Gwasanaethau Tân ac Achub a hyrwyddo diogelwch tân Y GymraegYr Amgylchedd
Fel y ceir Cymwyseddau Deddfwriaethol, fe gânt eu hysgrifennu o dan y meysydd pwnc priodol.