Cyn y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Mesur Cynulliad ynglŷn ag unrhyw bwnc neilltuol, y mae’n rhaid iddo yn gyntaf gael Cymhwysedd Deddfwriaethol amdano. (Gweler yr adran ar bwerau Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru). Fe all y Cynulliad ond cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ar unrhyw Fater gyda chymeradwyaeth Senedd y Deyrnas Unedig.
Y mae yna ddwy brif weithdrefn o fewn y Senedd drwy’r hyn y gellir cael y Cymwyseddau Deddfwriaethol:
Er mai’r rhain yw’r ddau brif lwybr drwy’r hyn y gellir cael Cymwyseddau Deddfwriaethol, fe ychwanegwyd rhai materion at Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, cyn mis Mai 2007, gan ddefnyddio gweithdrefn gorchymyn trosiant arbennig. Y mae hyn yn cynnwys amryw o faterion yn ymwneud ag addysg ac iechyd.
Unwaith y bydd Cymhwysedd Deddfwriaethol wedi’i gael ar Fater neilltuol, yna fe fydd y Mater hwnnw’n cael ei ychwanegu at Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.