Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Llunio Polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    Pwerau Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    » Cymwyseddau Deddfwriaethol
    Mesurau’r Cynulliad
    Swyddfa Llywydd
    Rhagor o Wybodaeth
  • Llunio Polisi yn San Steffan
  • Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Yr ydych yn : Polisi »Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi »Llunio Polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru »Cymwyseddau Deddfwriaethol
Cymwyseddau Deddfwriaethol

Senedd 2

Cyn y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru wneud Mesur Cynulliad ynglŷn ag unrhyw bwnc neilltuol, y mae’n rhaid iddo yn gyntaf gael Cymhwysedd Deddfwriaethol amdano. (Gweler yr adran ar bwerau Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru). Fe all y Cynulliad ond cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ar unrhyw Fater gyda chymeradwyaeth Senedd y Deyrnas Unedig.

Y mae yna ddwy brif weithdrefn o fewn y Senedd drwy’r hyn y gellir cael y Cymwyseddau Deddfwriaethol:

  • Drwy Ddeddf Seneddol;
  • Drwy fath neilltuol o Orchymyn yn y Cyfrin Gyngor, a adwaenir fel Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol. Fe fydd yn rhaid i’r Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol gael eu rhoi gerbron y Senedd gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a’u cymeradwyo gan ddau Dŷ’r Senedd a’r Cynulliad.

Er mai’r rhain yw’r ddau brif lwybr drwy’r hyn y gellir cael Cymwyseddau Deddfwriaethol, fe ychwanegwyd rhai materion at Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, cyn mis Mai 2007, gan ddefnyddio gweithdrefn gorchymyn trosiant arbennig. Y mae hyn yn cynnwys amryw o faterion yn ymwneud ag addysg ac iechyd.

Unwaith y bydd Cymhwysedd Deddfwriaethol wedi’i gael ar Fater neilltuol, yna fe fydd y Mater hwnnw’n cael ei ychwanegu at Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313