Unwaith y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â thestun, yna fe fydd yn gallu pasio Mesur Cynulliad arno.
Y mae yna bedwar o wahanol ffyrdd y gellir cynnig Mesur Cynulliad:
Y mae gan bob mesur Aelod Cynulliad sydd â gofal drosto. Y mae hwn yn aelod o’r Llywodraeth dros Fesurau a Gynigir gan y Llywodraeth, aelod o’r pwyllgor perthnasol dros Fesurau a Gynigir gan Bwyllgor, aelod o’r comisiwn dros Fesurau a Gynigir gan Gomisiwn, ac fel arfer yr aelod a gynigiodd y Mesur dros Fesurau a Gynigir gan Aelodau.
Y mae Mesurau arfaethedig yn cael eu cyflwyno (neu’u gosod) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn mynd ar eu hynt drwyddo mewn pedwar cam.
Cam 1: Ystyriaeth o Egwyddorion Cyffredinol
Unwaith y Mesur Cynulliad wedi’i osod gerbron y Cynulliad, y mae’n rhaid i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a fydd angen sefydlu pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur. Os oes angen, fe sefydlir pwyllgor i ystyried yr egwyddorion ac i adrodd yn ôl arnynt. Ar ôl hyn, fe fydd yr aelod sydd â gofal dros y mesur yn gofyn i’r Cynulliad gytuno ag egwyddorion cyffredinol y mesur. Os yw’r Pwyllgor Busnes yn penderfynu nad yw hi’n angenrheidiol cael pwyllgor i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, yna fe fydd yr aelod sydd â gofal yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno â’r egwyddorion cyffredinol heb ystyriaeth gan bwyllgor. Unwaith y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y mesur, fe allant symud ymlaen i Gam 2.
Cam 2: Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor Yn ystod cam dau, fe gaiff y mesur arfaethedig ei ystyried yn fanylach gan Bwyllgor. Fe all hwn fod yr un pwyllgor ag yng Ngham 1, pwyllgor newydd neu bwyllgor o Gynulliad Cymru. Yn y cam hwn, fe gaiff gwelliannau i’r mesur arfaethedig eu rhoi ymlaen ac fe all y Pwyllgor gytuno arnynt neu beidio. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi ystyried yr holl welliannau ac wedi cytuno neu fel arall, yna y mae’r mesur arfaethedig yn symud ymlaen i Gam 3.
Cam 3: Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad Yn ystod y cam hwn, fe gaiff y mesur ei ystyried gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Fe ellir cyflwyno gwelliannau i’r mesur gan unrhyw Aelod Cynulliad. Unwaith y bydd yr holl welliannau wedi’u cytuno neu fel arall, ac y mae adran neu atodlen olaf y mesur wedi’i chytuno arni, yna y mae Cam 3 wedi’i gwblhau.
Cam 4: Cam Terfynol
Cyn gynted ag y bo Cam 3 wedi’i gwblhau, fe all unrhyw Aelod Cynulliad wneud cynnig bod y Mesur Arfaethedig yn cael ei basio.