Taith Biliau drwy’r Cynulliad
Yn dilyn y refferendwm ar bwerau deddfwriaethol a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2011, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gallu gwneud deddfwriaeth ar ffurf Deddfau’r Cynulliad. Mae’r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i’r Cynulliad ar ffurf Mesurau. Dim ond yr unigolion neu gyrff canlynol a all gyflwyno Biliau i’r Cynulliad :
Mae’r rhan fwyaf o’r Biliau sy’n cael eu cyflwyno yn cael eu cyflwyno gan Weinidogion Llywodraeth Cymru ac yn "Filiau’r Llywodraeth."
Mae Mesurau yn mynd drwy’r Cynulliad drwy broses pedwar cam:
Cam 1: Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol
Ar y cam hwn bydd pwyllgor (neu bwyllgorau) yn ystyried egwyddorion cyffredinol Bil. Gall y pwyllgor ofyn am dystiolaeth ysgrifenedig a llafar oddi wrth bartïon sydd â diddordeb i lywio’r gwaith hwn. Yna bydd yn adrodd i’r Cynulliad a gofynnir i’r Cynulliad drafod a chytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Trafodaeth Cam 1 yw hon.
Cam 2: Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor
Yn ystod Cam 2 mae’r Bil, ac unrhyw ddiwygiadau iddo sy’n cael eu cynnig, yn cael eu hystyried yn fanylach gan Bwyllgor. Gall diwygiadau i Fil gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r Cynulliad ac nid oes unrhyw derfyn ar y diwygiadau a all gael eu cyflwyno, ond dim ond aelodau’r Pwyllgor a all bleidleisio arno.
Cam 3: Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad
Cam 3 yw ystyriaeth fanwl gan y Cynulliad o’r Bil, ac unrhyw ddiwygiadau sy’n cael eu cynnig gan Aelodau’r Cynulliad. Gall diwygiadau gael eu cyflwyno gan unrhyw Aelod o’r Cynulliad a’r Llywydd sy’n penderfynu pa ddiwygiadau a fydd yn cael eu hystyried gan y Cynulliad.
Cam 4: Cam Terfynol
Ar ôl i Gam 3 gael ei gwblhau, bydd y Cynulliad yn pleidleisio ar basio’r Bil. Os caiff Bil ei basio rhaid iddo dderbyn y Cydsyniad Brenhinol gan y Frenhines er mwyn iddo ddod yn gyfraith.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr Arweiniad i’r broses ddeddfwriaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru y Swyddfa Deddfwriaeth, Mai 2011