Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Llunio Polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    Pwerau Deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru
    Cymwyseddau Deddfwriaethol
    » Mesurau’r Cynulliad
    Swyddfa Llywydd
    Rhagor o Wybodaeth
  • Llunio Polisi yn San Steffan
  • Cyngor Partneriaeth y Sector Gwirfoddol

Yr ydych yn : Polisi »Canllawiau i’r Prosesau Llunio Polisi »Llunio Polisi yn y Cynulliad Cenedlaethol Cymru »Mesurau’r Cynulliad
Mesurau’r Cynulliad

Unwaith y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cael Cymhwysedd Deddfwriaethol ynglŷn â thestun, yna fe fydd yn gallu pasio Mesur Cynulliad arno.

Y mae yna bedwar o wahanol ffyrdd y gellir cynnig Mesur Cynulliad:

  • Mesur a Gynigir gan y Llywodraeth
  • Mesur a Gynigir gan Bwyllgor
  • Mesur a Gynigir gan Gomisiwn
  • Mesur a Gynigir gan Aelodau.

Senedd 3Y mae gan bob mesur Aelod Cynulliad sydd â gofal drosto. Y mae hwn yn aelod o’r Llywodraeth dros Fesurau a Gynigir gan y Llywodraeth, aelod o’r pwyllgor perthnasol dros Fesurau a Gynigir gan Bwyllgor, aelod o’r comisiwn dros Fesurau a Gynigir gan Gomisiwn, ac fel arfer yr aelod a gynigiodd y Mesur dros Fesurau a Gynigir gan Aelodau.

Y mae Mesurau arfaethedig yn cael eu cyflwyno (neu’u gosod) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yn mynd ar eu hynt drwyddo mewn pedwar cam.

Cam 1: Ystyriaeth o Egwyddorion Cyffredinol

Unwaith y Mesur Cynulliad wedi’i osod gerbron y Cynulliad, y mae’n rhaid i’r Pwyllgor Busnes benderfynu a fydd angen sefydlu pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur. Os oes angen, fe sefydlir pwyllgor i ystyried yr egwyddorion ac i adrodd yn ôl arnynt. Ar ôl hyn, fe fydd yr aelod sydd â gofal dros y mesur yn gofyn i’r Cynulliad gytuno ag egwyddorion cyffredinol y mesur. Os yw’r Pwyllgor Busnes yn penderfynu nad yw hi’n angenrheidiol cael pwyllgor i ystyried yr egwyddorion cyffredinol, yna fe fydd yr aelod sydd â gofal yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gytuno â’r egwyddorion cyffredinol heb ystyriaeth gan bwyllgor. Unwaith y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cytuno ar egwyddorion cyffredinol y mesur, fe allant symud ymlaen i Gam 2.

Cam 2: Ystyriaeth Fanwl gan Bwyllgor

Yn ystod cam dau, fe gaiff y mesur arfaethedig ei ystyried yn fanylach gan Bwyllgor. Fe all hwn fod yr un pwyllgor ag yng Ngham 1, pwyllgor newydd neu bwyllgor o Gynulliad Cymru. Yn y cam hwn, fe gaiff gwelliannau i’r mesur arfaethedig eu rhoi ymlaen ac fe all y Pwyllgor gytuno arnynt neu beidio. Unwaith y bydd y Pwyllgor wedi ystyried yr holl welliannau ac wedi cytuno neu fel arall, yna y mae’r mesur arfaethedig yn symud ymlaen i Gam 3.

Cam 3: Ystyriaeth Fanwl gan y Cynulliad

Yn ystod y cam hwn, fe gaiff y mesur ei ystyried gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn. Fe ellir cyflwyno gwelliannau i’r mesur gan unrhyw Aelod Cynulliad. Unwaith y bydd yr holl welliannau wedi’u cytuno neu fel arall, ac y mae adran neu atodlen olaf y mesur wedi’i chytuno arni, yna y mae Cam 3 wedi’i gwblhau.

Cam 4: Cam Terfynol

Cyn gynted ag y bo Cam 3 wedi’i gwblhau, fe all unrhyw Aelod Cynulliad wneud cynnig bod y Mesur Arfaethedig yn cael ei basio.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313