Mae 60 o Aelodau Cynulliad (neu "AC") a etholir drwy system o gynrychiolaeth gyfrannol a elwir yn System Aelod Ychwanegol. Mae 40 o'r AC yn cynrychioli'r un etholaethau ag Aelodau Seneddol o Gymru: etholir y 20 arall ar sail ranbarthol, gyda phedwar AC yn cynrychioli pob un o 5 rhanbarth ar draws Cymru. Mae gan bawb ddwy bleidlais mewn etholiad Cynulliad: un ar gyfer AC etholaethol ac un ar gyfer AC rhanbarthol.
Yn dilyn yr etholiadau am y Cynulliad ym mis Mai 2007, y mae 26 AC yn cynrychioli'r Blaid Lafur, 15 yn cynrychioli Plaid Cymru, 12 yn cynrychioli'r Blaid Geidwadol a 6 yn cynrychioli Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac un Annibynnol.
Mae rhagor o wybodaeth am Aelodau Cynulliad ar gael ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.