Deiseb i Gomisiynydd Plant Ewrop, 26/06/2019 [C/Ll/A/G.I.]
Mae’r sefydliad hawliau plant, Eurochild, wedi rhyddhau deiseb yn galw am greu Comisiynydd Plant i’r Undeb Ewropeaidd
Mae’r UE ar fin penderfynu ar Gomisiynwyr Ewrop yn ystod y pum mlynedd nesaf. Nhw fydd yn pennu blaenoriaethau’r UE o ran gwleidyddiaeth a gwariant.
Mae Eurochild yn nodi, er bod hawliau plant wedi’u crisialu yng nghyfraith yr UE, bod plant yn yr Undeb Ewropeaidd yn dal i wynebu digon o heriau. Nid oes un person unigol sy’n gyfrifol am orfodi hawliau plant a rhoi blaenoriaeth iddyn nhw.
Gallwch chi lofnodi’r ddeiseb i ofyn i Donald Tusk benodi Comisiynydd Plant i’r UE.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks