Cymru Ein Dyfodol – Sgwrs Genedlaethol, 18/09/19 [C]
I helpu i drwytho ei Hadroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol 2020 lansiwyd Sgwrs Genedlaethol gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ym mis Mai. Yn ystod mis Mehefin a Gorffennaf cynhaliwyd gweithdai ym Mangor, Wrecsam, Caerfyrddin a Glynebwy pan siaradodd y Comisiynydd am ei gwaith ar gyflawni’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Cafodd y mynychwyr hefyd y cyfle i rannu eu straeon a phrofiadau ac i ddweud wrthom pa Gymru hoffen ei gweld yn y dyfodol.
1) Cymru Ein Dyfodol – Gweithdy olaf – Dydd Iau 3 Hydref, Llandrindod
Cynhelir y gweithdy olaf yn y gyfres hon yn Orsaf Dân Llandrindod, 13:30-16:30 ddydd Iau 3 Hydref, pan fydd cyfle i chi rannu eich straeon, profiadau a syniadau. Os hoffech chi fynychu’r gweithdy hwn a wnewch chi gofrestru ar SurveyMonkey.
2) Trefnwch eich digwyddiadau eich hun
Byddem wrth ein bodd pe baech yn cynnal eich digwyddiadau eich hun, ac i helpu chi i wneud hyn mae’r Comsiynydd wedi paratoi pecyn offer ac adnoddau y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich digwyddiadau eich hun neu mewn cyfarfodydd neu sgwrsiau arferol.
Byddwn yn casglu eich straeon, profiadau ac awgrymiadau electronig (cymaint o weithiau ag yr hoffech chi) trwy Llwyfan y Bobl a gallwch gwblhau’r arolwg arlein nawr. Os hoffech chi chwarae rhan fwy yn y brosiect hon a wnewch chi gwblhau’r ffurflen Mynediant o Ddiddordeb. Hoffem cynnwys cymaint o sefydliadau ac unigolion ag yn bosib sy’n gallu ein helpu ni i ehangu ein cefnog, yn arbennig i’r rhai yn ein cymunedau y maent yn cael eu chlywed yn anaml.
Ein sianelau cymdeithasol
Email info@childreninwales.org.uk
Hawlfraint Children in Wales 2014
Cedwir Pob Hawl
Elusen Gofrestredig 1020313
Cwmni cyfyngedig drwy warant 2805996
Web design by Teamworks