Cartref
|
Map o'r Safle
|
Telerau ac Amodau
|
Cysylltu a Ni
|
English
Aelodaeth
|
Newyddion
|
Amdanom Ni
|
Ein Gwaith
|
Meysydd Gwaith
Cyhoeddiadau
|
Digwyddiadau
|
Polisi
|
Yn Eich Ardal
|
Confensiwn y CU
|
Cysylltiadau
Chwilio
Cofnodwch eich term chwilio
Chwilio Manwl
Aelodau i Fewngofnodi
Enw Defnyddiwr
Cyfrinair
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma
Is-Dudalennau
News
Plant yng Nghymru yn y newyddion
»
Press Releases
Yr ydych yn :
News
»
Press Releases
Press Releases
Tudalen
1
|
2
Arwr Criced i Siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni, 16/10/08
Fe fydd Robert Croft, arwr criced a thad, yn siarad mewn cynhadledd i nodi Wythnos Rhieni ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ar y 23ain o Hydref.
5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain
Fe fydd teuluoedd o bob cwr o Gymru ymysg miloedd fydd yn gorymdeithio drwy Lundain y penwythnos hwn, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’i haddewid ynglŷn â dileu tlodi ymysg plant. Fe addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 ond y maent mewn gwir berygl o fethu â chyrraedd y targed hwn. Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, y mae’n neilltuol o bwysig bod y Llywodraeth yn gweithredu’n eofn yn awr i sicrhau gwell dyfodol i’n plant i gyd.
Y mae Prif Weinidog Cymru’n annerch Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr
Fe fydd Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, heddiw yn rhoi anerchiad mewn cynhadledd plant ryngwladol fawr. Y mae Fforwm Byd 2008 yn gynhadledd tri diwrnod sy’n dod ag arbenigwyr plant ynghyd o bob cwr o’r byd i ystyried y ffyrdd gorau o ymyrryd yn gynnar pan fydd plant yn cael problemau. Fe fydd arbenigwyr sy’n mynychu’r gynhadledd yng Nghaerdydd yn trafod sut y maent yn ymyrryd yn gynnar yn eu gwledydd eu hunain mewn ystod o sefyllfaoedd. Fe wnânt ystyried materion megis iechyd meddwl, cymorth i deuluoedd, addysg ac amddiffyn plant. Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn ystyried dulliau a all rwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf.
Cynhadledd Plant Ryngwladol Fawr yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf, 23/9/08 [W]
Fe fydd cynhadledd ryngwladol fawr yn dod ag arbenigwyr plant o bob cwr o’r byd i Gaerdydd yr wythnos nesaf. Fe fydd Fforwm Byd 2008 yn ystyried y ffyrdd gorau o ymyrryd yn gynnar pan fydd gan blant broblemau. Fe fydd cynrychiolwyr yn ystyried sut y mae ymyrraeth gynnar yn gweithio mewn ystod o sefyllfaoedd, yn cynnwys amddiffyn plant, cyfiawnder ieuenctid, addysg, masnachu mewn pobl, gwaith gyda phlant sydd ag anableddau, a llawer o bethau eraill. Fe fydd cynrychiolwyr hefyd yn ystyried dulliau a all rwystro problemau rhag codi yn y lle cyntaf.
Arbenigwyr Plant Rhyngwladol yn dod i Gynhadledd Bwysig yng Nghaerdydd, 18/8/08 [C]
Mae elusen plant Plant yng Nghymru yn cyd-noddi cynhadledd ryngwladol bwysig ddiwedd mis Medi ar gyfer arbenigwyr o bob rhan o’r byd.
Gofyn i Bobl Ifanc Sut y Byddent yn Newid Cymru, 4/8/08
Gall plant a phobl ifanc sy’n mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yr wythnos hon gymryd rhan mewn cystadleuaeth i ddweud beth y byddent yn ei newid i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae’r elusen plant, Plant yng Nghymru, yn dosbarthu cardiau post yn yr Eisteddfod yn gofyn "Pe byddech chi’n rhedeg Cymru, pa un peth fyddech chi’n wneud i wella pethau ar gyfer plant a phobl ifanc?"
Sefydliadau Plant yn Hyrwyddo Hawliau Plant yn yr Eisteddfod, 4/8/2008
Daw sefydliadau plant yng Nghymru ynghyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, gyda rhaglen wythnos o weithgareddau yn hyrwyddo hawliau plant.
Swydd Newydd i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 7/7/08 [C]
Y mae aelod newydd o staff yn Plant yng Nghymru wedi dechrau gweithio i leihau marwolaethau ac anafiadau anfwriadol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.
Cynlluniau i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 20/6/08
A plan to reduce the number of accidents that children in Wales have has been published by Children in Wales.
Children in Wales welcomes Proposals to Ensure both Parents Register a Child’s Birth, 03/06/08 [W]
Y mae Rhwydwaith Newydd yn Ystyried y Materion sy’n Wynebu Plant Gweithwyr Mudol yng Nghymru, 3/6/08 [C]
Y mae yna rwydwaith newydd i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant gweithwyr mudol wedi’i sefydlu gan Plant yng Nghymru.
Ymgyrchwyr yn galw ar Gynghorwyr i flaenoriaethu Plant Anabl, 15/4/08 [C]
Mae ymgyrchwyr dros blant a phobl ifanc anabl wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer yr etholiadau lleol Mai 1, 2008. Cynhyrchwyd y maniffesto gan yr ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru, sydd am sicrhau i blant a phobl ifanc yr un cyfleon dydd i ddydd ag a fwynheir gan blant a phobl ifanc eraill.
Cynhadledd i archwilio’r ffordd orau o gefnogi plant ifanc anabl, 11/04/08 [C]
Mae gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i gynhadledd i drafod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn achos plant anabl.
Swydd newydd a fydd yn helpu i amddiffyn plant agored i niwed sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru, 08/04/08 [C]
Bydd plant sy’n ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru’n elwa ar lefelau uwch o amddiffyniad trwy waith swyddog datblygu newydd ym Plant yng Nghymru.
Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad , 2/4/08
A new report, published by Children in Wales highlights some of the key issues disadvantaging families in rural Wales. These include problems accessing transport, a lack of services and leisure opportunities and a lack of affordable housing. The report “Families not areas suffer rural disadvantage, Support for Rural Families in Wales” is the result of research which considered the problems rural families face and effective ways of delivering services to them. It found that many services tend to be focused in more urban areas of counties or in geographical areas of high deprivation.
Adnodd Newydd i Gynorthwyo i Newid Agweddau tuag ar Daro, 12/03/08 [C]
Y mae 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn lansio pecyn cymorth newydd i gynorthwyo i newid agweddau tuag at daro yn y Senedd yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2008.
Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi, 17/10/2007
Ar yr 17eg o Hydref, Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi, y mae Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru a Llywydd Eurochild, yn annog aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i barhau i ymladd tlodi ymysg plant.
Y Mae Plant yng Nghymru yn Croesawu Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, 17/10/07
Y mae Plant yng Nghymru yn croesawu bod Pwyllgor Craffu y Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi’i sefydlu, fel y cytunwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddoe. Y mae Plant yng Nghymru hefyd yn croesawu aelodau’r Pwyllgor ac y mae’n gobeithio gweithio yn agos gyda hwynt yn y dyfodol.
Y Mae Cunhadledd Dileu Tlodi Ymysg Plant yn Galw am i Dlodi Ymysg Plant yng Nghymru gael ei wneud yn “Rhywbeth sy’n Perthyn i’r Gorffennol”
Y mae trefnwyr cynhadledd allweddol yng Nghaerdydd, De Cymru i nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi (17 Hydref) ac Wythnos Rhieni (16 – 20 Hydref) wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud y frwydr yn erbyn tlodi ymysg plant yng Nghymru yn flaenoriaeth gyntaf iddynt.
Cynhadledd Plant yng Nghymru yn archwilio llythrennedd emosiynol, 19/09/07 [C]
Mae’r gynhadledd allweddol hon yng Nghaerdydd yn edrych ar rôl llythrennedd emosiynol mewn hyrwyddo lles emosiynol plant a phobl ifanc a sut y gall gwneuthurwyr penderfyniadau a gweithwyr proffesiynol ei ddefnyddio’n effeithlon.
Tudalen
1
|
2