Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • News
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : News »Press Releases »Swydd Newydd i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 7/7/08 [C]
Swydd Newydd i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 7/7/08 [C]

Datganiad i’r Wasg

7 Gorffennaf 2008

Swydd Newydd i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant

Y mae aelod newydd o staff yn Plant yng Nghymru wedi dechrau gweithio i leihau marwolaethau ac anafiadau anfwriadol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Yn 2004, fe gafodd o leiaf 154,489 o blant a phobl ifanc o dan 19 mlwydd oed eu trin mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ledled Cymru o ganlyniad i anafiadau, ac fe amcangyfrifir fod yna 14,990 o blant o dan 5 mlwydd oed wedi’u hanafu yn y cartref.

Fe fydd y gweithiwr newydd yn datblygu rhwydwaith o weithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar faterion yn ymwneud â diogelwch plant, gan eu galluogi hwynt i ddod ynghyd i rannu syniadau a phryderon, a chreu cysylltiad at lunwyr polisi yng Nghymru.  Fe fydd hi hefyd yn parhau i weithio ar y Cynllun Gweithredu Diogelwch Plant a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sydd wedi’i lunio i gynorthwyo i atal anafiadau y mae modd eu hosgoi a chreu cyfleoedd i blant chwarae yn ddiogel ac yn llawn egni.

Fe ddywedodd Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru: "Yr ydym wrth ein boddau gallu arwain gyda chydgysylltu gwaith yn ymwneud â diogelwch plant yng Nghymru, gan gyfrannu i atal anafiadau anfwriadol i blant a phobl ifanc.  Fe edrychwn ymlaen at weithio gydag ystod eang o bartneriaid ledled gwasanaethau plant, a’r sawl sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar ddiogelwch yn y cartref ac ar y ffyrdd yng Nghymru."  

Nodiadau:

1.                  Y mae’r Swyddog Datblygu: Diogelwch Plant yn dechrau ar ei swydd ar y 7fed o Orffennaf 2008.  Fe gafodd Plant yng Nghymru gyllid ar gyfer y swydd newydd oddi wrth Her Iechyd Cymru.  Fe ddatblygwyd y cynnig drwy bartneriaeth gyda chorff Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau (CAPIC), y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau a Chanolfan Iechyd Cymru.

2.                  Y mae Plant yng Nghymru wedi gweithio gyda Diogelu Plant Cymru i ddatblygu Gweithio tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant ar gyfer Cymru.  Y mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau a’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant.  Y mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Fe ellir lawrlwytho’r cynllun, Gweithio tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant ar gyfer Cymru, oddi ar wefan Plant yng Nghymru: www.childreninwales.org.uk/publication .  Fe fydd allan ar gyfer ymgynghori tan y 12fed o Fedi 2008.

3.                  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant gydag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant a hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth sy’n wasanaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434,  E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Eleri Griffiths, Swyddog Datblygu, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: eleri.griffiths@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313