Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Cynlluniau i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 20/6/08
Cynlluniau i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant, 20/6/08

20 Mehefin 2008

Cynlluniau i wneud Cymru’n Ddiogelach i Blant

Y mae cynllun i leihau nifer y damweiniau y mae plant yng Nghymru’n eu cael wedi’i gyhoeddi gan Plant yng Nghymru.  

Yn 2004, fe gafodd o leiaf 154,489 o blant a phobl ifanc o dan 19 mlwydd oed eu trin mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ledled Cymru o ganlyniad i anaf, ac fe amcangyfrifir fod 14,990 o blant o dan 5 mlwydd oed wedi’u hanafu yn y cartref.

Y mae’r cynllun wedi’i lunio i gynorthwyo i atal yr anafiadau hyn y mae modd eu hosgoi ac i greu cyfleoedd i blant chwarae’n ddiogel ac yn egnïol.  Y mae rhai o’r meysydd allweddol a amlygwyd ar gyfer gweithredu arnynt hyd yn hyn yn cynnwys:

  • Sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru yn derbyn yr un math o addysg diogelwch y ffordd fawr erbyn yr amser y maent yn ddeng mlwydd oed;
  • Sicrhau bod yna barthau cyflymder 20 milltir yr awr o amgylch pob ysgol, meithrinfa a man chwarae yng Nghymru fel sydd yna yn yr Alban;
  • Sicrhau bod pob plentyn yn cael ei addysgu i nofio, a’u bod yn derbyn addysg o ran diogelwch dŵr erbyn eu bod yn 12 mlwydd oed;
  • Rhoi sylw i ddamweiniau yn y cartref ar gyfer teuluoedd sydd â phlant o dan 5 mlwydd oed.

Fe ddywedodd Eleri Griffiths, Swyddog Datblygu yn Plant yng Nghymru: "Yr ydym wedi gweithio gyda llawer o bartneriaid i gynhyrchu’r alwad hon am weithredu, yn cynnwys Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau (CAPIC), y Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau (RoSPA) a phlant a phobl ifanc eu hunain.  Y mae yna lawer o bethau y gellir eu gwneud i leihau’r trallod a achosir gan anafiadau anfwriadol, yn enwedig damweiniau sy’n digwydd o fewn y cartref.  Y mae lleihau damweiniau yn y cartref wedi’i esgeuluso dros y blynyddoedd diwethaf, ac felly fe hoffem weld Llywodraeth Cynulliad Cymru yn troi’i sylw at y mater hwn.  Fe ddylai teuluoedd gael eu cynorthwyo i gael gafael ar gyfarpar diogelwch o safon uchel a gwell gwybodaeth am ddiogelwch pan fydd yna fabanod a phlant ieuainc yn y cartref.  Yr ydym yn gobeithio y cawn ni laweroedd o ymatebion i’n galwad am weithredu ac y bydd hyn yn arwain at welliannau o ran cadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag anafiadau anfwriadol yng Nghymru."

Fe fydd Plant yng Nghymru yn ymgynghori ynglŷn â’r cynllun yn ystod Haf 2008, ac ar ôl hynny fe fydd yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i’w fabwysiadu.

Nodiadau:

1.                  Fe ellir lawrlwytho’r cynllun, Gweithio tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant ar gyfer Cymru, oddi ar wefan Plant yng Nghymru: www.childreninwales.org.uk/publication .  Fe fydd allan ar gyfer ymgynghori tan y 12fed o Fedi, 2008.

2.                  Y mae Plant yng Nghymru wedi gweithio gyda  Diogelu Plant Cymru i ddatblygu Gweithio tuag at Gynllun Gweithredu Diogelwch Plant ar gyfer Cymru.  Y mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau a’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant.  Y mae’r prosiect yn cael ei gyllido gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru.

3.                  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant gydag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant a hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth sy’n wasanaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434,  E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk

Eleri Griffiths, Swyddog Datblygu, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: eleri.griffiths@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313