Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Y mae Rhwydwaith Newydd yn Ystyried y Materion sy’n Wynebu Plant Gweithwyr Mudol yng Nghymru, 3/6/08 [C]
Y mae Rhwydwaith Newydd yn Ystyried y Materion sy’n Wynebu Plant Gweithwyr Mudol yng Nghymru, 3/6/08 [C]

Datganiad i’r Wasg

3ydd o Fehefin 2008

Y mae Rhwydwaith Newydd yn Ystyried y Materion sy’n Wynebu Plant Gweithwyr Mudol yng Nghymru

Y mae yna rwydwaith newydd i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant gweithwyr mudol wedi’i sefydlu gan Plant yng Nghymru.

Fe ddaw plant gweithwyr mudol i fyw yng Nghymru gyda’u rhieni pan ddônt yma i ganfod cyfleoedd am waith.  Fe all dod i wlad newydd gynnig llawer o heriau i blentyn neu berson ifanc.  Y maent ymaith o’u cartref a’r amgylchoedd y maent wedi arfer â hwynt ac fe allant gael trafferthion gydag iaith a all ei gwneud hi’n anodd iddynt gael y gorau o’r gwasanaeth addysg a gwasanaethau eraill.  Fe all fod yna hefyd wahaniaethau diwylliannol sydd yn ei gwneud hi’n anodd iddynt addasu i’w bywydau yma.

Y mae’r rhwydwaith newydd wedi’i sefydlu i alluogi gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda’r plant a phobl ifanc hyn i ddod ynghyd i drafod problemau, rhannu syniadau a chwilio am atebion.

 

Fe ddywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru:

"Y mae yna lawer o heriau newydd yn wynebu plant o bob cwr o Ewrop a mannau eraill sy’n dod i Gymru gyda’u rhieni am amrywiaeth o resymau, yn cynnwys i ganfod gwaith ac i wella’n gyffredinol eu hamgylchiadau.  Fodd bynnag, fe wyddom y gall anawsterau godi wrth ymgartrefu i amgylchedd newydd, o ran eu haddysg ysgol, canfod tŷ addas a chanfod eu ffordd o amgylch yr holl wasanaethau iechyd, gwasanaethau cyfreithiol a chymorth.  Drwy sefydlu’r fframwaith newydd hwn, yr ydym yn gobeithio gallu cefnogi gweithwyr proffesiynol yn well i gynorthwyo i oresgyn rhai o’r rhwystrau hyn."

        

Nodiadau:

1.                  Fe gynhelir cyfarfod agoriadol y Rhwydwaith ddydd Mawrth, y 3ydd o Fehefin rhwng 2.00 a 4.30 y pnawn yn swyddfeydd Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd.  Fe fydd y cyfarfod hwn yn gyfle i’r sawl sy’n mynychu i gymryd rhan mewn trafodaeth agored wybodus yn gysylltiedig â’r materion allweddol sy’n effeithio ar y grŵp hwn o blant, rôl a diben y Rhwydwaith hwn a’i aelodaeth.  Fe fydd hefyd yn dechrau gwaith tuag at lunio rhestr o weithgareddau a blaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt yn y dyfodol.  

2.                  Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe’i cofrestrwyd fel elusen ym 1993. Ein nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a sicrhau bod plant yn uchel ar yr agenda yng Nghymru. Yr ydym yn cydweithio’n agos gyda’n haelodau sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, yn enwedig plant ifanc, y rhai sy’n cael eu heffeithio gan fywyd teuluol ansefydlog, plant ag anghenion arbennig neu anableddau a rhai sy’n dioddef o ganlyniad i dlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hybu arferion da mewn gwasanaethau plant trwy ymchwil, polisi a datblygiad arferion gweithio, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a defnydd o lyfrgell helaeth a gwasanaeth gwybodaeth. Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434,  E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313