Datganiad I’r Wasg
15 Ebrill 2008
Ymgyrchwyr yn galw ar Gynghorwyr i flaenoriaethu Plant Anabl
Mae ymgyrchwyr dros blant a phobl ifanc anabl wedi cyhoeddi maniffesto ar gyfer yr etholiadau lleol Mai 1, 2008. Cynhyrchwyd y maniffesto gan yr ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru, sydd am sicrhau i blant a phobl ifanc yr un cyfleon dydd i ddydd ag a fwynheir gan blant a phobl ifanc eraill. Mae’r maniffesto’n galw ar gynghorwyr i roi blaenoriaeth i blant anabl a’u teuluoedd dros y pedair blynedd nesaf. Dangosodd adroddiadau diweddar (gweler nodyn 3) fod y modd y darperir gwasnaethau i blant anabl ar hyn o bryd yn annigonol i’w anghenion. Yr her dros y tair blynedd nesaf yw paratoi’r ffordd i drawsnewid y gwasnaethau sy’n cynnal plant anabl fel y cant yr un cyfleon dydd i ddydd a phlant eraill.
Mae’r Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru am i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd gael:
Dywed Zoë Richards o Anabledd Dysgu Cymru, un o gydlynyddion yr ymgyrch: "Mae’n bwysig bod gwasanaethau plant a phobl ifanc yn cael eu tanlinellu fel rhywbeth i’w flaenoriaethu yn nhrefniadaeth cynllunio Awdurdodau Lleol i sicrhau gwelliant arwyddocaol mewn gwasanaethau plant anabl a’u teuluoedd."
DIWEDD
Nodiadau:
Am wybodaeth bellach cysyllter â:
Cath Lewis, Swyddog Datblygu, Anabledd, Plant yng Nghymru, Tel: 029 2034 2434, e-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk