Mae gweithwyr proffesiynol o bob cwr o Gymru yn cyfarfod yng Nghaerdydd heddiw i gynhadledd i drafod pwysigrwydd ymyrraeth gynnar yn achos plant anabl.
Mae’r blynyddoedd cynharaf ym mywyd y plentyn yn hollbwysig yn ei ddatblygiad. Pan mae gan blentyn anghenion ychwanegol, neu yn anabl, mae’n hanfodol fod hyn yn cael ei nodi’n gynnar fel bod ymyrraeth gynnar a strategaethau gymorth yn cael eu sefydlu ar gyfer y plentyn a’r teulu. Bydd y gynhadledd hon, Cydweithio o’r Cychwyn, yn archwilio’r strategaethau hyn, y dulliau gorau o ddod a gwasanaethau i blant ifanc anabl ac i gefnogi’r teuluoedd. Bydd y Gweinidog Plant, Jane Hutt, yn rhoi’r araith gyweirnod i’r gynhadledd a bydd nifer o weithdai yn cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol fydd yn rhannu eu profiadau o weithio gyda phlant anabl a’u rhieni.
Fe ddywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant: "Rhoi dechrau da mewn bywyd i bob plentyn yw’r cyntaf o saith amcan craidd allweddol Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer plant. Drwy ymyrryd yn gynnar, drwy adnabyddiaeth gynnar o anableddau, fe allwn ni sicrhau bod gan bob plentyn yr un cyfleoedd, ni waeth beth fo’i anabledd. Y mae darparu’r cymorth hwn yn hanfodol i sicrhau bod gan bob plentyn y cyfle i gyrraedd eu potensial."
Dywedodd Cath Lewis, Swyddog Datblygu dros Anabledd gyda Plant yng Nghymru: "Mae gan bob plentyn yr hawl i’r cychwyn gorau mewn bywyd ac y mae’n hanfodol fod ymyrraeth gynnar a chefnogaeth yn cael eu cynnig i’r plentyn anabl a’i deulu. Bydd y gynhadledd hon yn adlewyrchu’r pwyntiau hyn yn ogystal ag anelu at sicrhau fod gan blant anabl a’u teuluoedd fynedfa i saith nod craidd Ymgyrch Plant Anabl yn Cyfri Cymru."
Nodiadau:
1. Cynhelir Cydweithio o’r Cychwyn, Ymdopi gydag Effaith Anabledd yn y Blynyddoedd Cynnar yng Nghanolfan Gynhadledd y Brifysgol, Penylan, Caerdydd, ddydd Gwener, Ebrill 11, rhwng 9.30am a 4.00pm. Y siaradwyr cyweirnod fydd:
2. Mae Ymgyrch Plant yn Cyfri Cymru yn anelu at sicrhau fod plant a phobl ifanc anabl a’u teuluoedd yn medru sicrhau’r hawliau sy’n haeddiannol iddynt er mwyn byw bywyd mor normal ag sy’n bosib. Gwefan: www.dcmw.org.uk
3. Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig ym 1993. Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sef gweithwyr proffesiynol, crëwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywyd pob plentyn sy’n byw yng Nghymru, yn arbennig plant ieuanc, y rhai a effeithir gan ansefydlogrwydd teuluol, plant gydag anghenion arbennig a’r rhai sy’n dioddef tlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu a dosbarthu gwybodaeth a hyrwyddo arfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygiad arfer, cyhoeddiadau, cynhadleddau, seminarau, hyfforddi, defnydd o lyfrgell eang a gwasanaeth gwybodaeth. Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
Am Wybodaeth Bellach Cysyllter â:
Lynne Hill, Plant yng Nghymru, Tel: 029 2034 2434, Symudol: 07721 568084, e-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk
Cath Lewis, Swyddog Datblygu, Anabledd, Plant yng Nghymru, Tel: 029 2034 2434, e-bost: catherine.lewis@childreninwales.org.uk