Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad , 2/4/08
Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad , 2/4/08

Y mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd gan Plant yng Nghymru, yn amlygu rhai o’r materion allweddol sy’n peri anfantais i deuluoedd yng nghefn gwlad Cymru.  Y mae’r rhain yn cynnwys trafferthion o ran cael at gludiant, diffyg gwasanaethau a chyfleoedd hamdden a phrinder tai fforddiadwy.  Y mae’r adroddiad "Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad, Cymorth i Deuluoedd Cefn Gwlad yng Nghymru" yn ganlyniad ymchwil a wnaeth ystyried y problemau y mae teuluoedd cefn gwlad yn eu hwynebu, a ffyrdd effeithiol o ddarparu gwasanaethau iddynt.  Fe ganfu fod llawer o wasanaethau’n tueddu i gael eu canolbwyntio mewn ardaloedd mwy trefol o siroedd neu mewn ardaloedd daearyddol o amddifadedd uchel.  Ynghyd â chysylltiadau trafnidiaeth anfynych, fe all hyn olygu bod teuluoedd mewn rhai ardaloedd gwledig yn colli allan ar wasanaethau.  Y mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu ystod o fentrau mewn rhai siroedd sydd wedi’u datblygu i ddiwallu anghenion teuluoedd mewn ardaloedd gwledig yng Nghymru.  Y mae’r rhain yn cynnwys rhwydwaith o ganolfannau teuluoedd a sefydlwyd yn sir Gaerfyrddin, llinell gymorth ar y ffôn ar gyfer rhieni yng Nghonwy, a Gwasanaeth Teuluoedd Cefn Gwlad Ynys Môn.

Fe ddywedodd Lucy Akhtar, Swyddog Datblygu Rhianta yn Plant yng Nghymru: "Fe deimlai asiantaethau y cyfwelwyd â hwynt fel rhan o’r astudiaeth er bod teuluoedd yn fodlon yn gyffredinol gyda bywyd cefn gwlad bod gwasanaethau i gymorth teuluoedd yn eu rôl yn rhianta yn glytiog.  Fe wnaeth asiantaethau amlygu amryw o faterion a wynebir gan deuluoedd, yn cynnwys problemau gyda chael at wasanaethau, cyfleoedd hamdden a chyngor ynglŷn â lles.  Yr oedd problemau llawer o deuluoedd yn cael eu gwaethygu gan brinder cludiant fforddiadwy a gorfod ymlafnio ar incwm isel.  Fe gawsai teuluoedd gyda phlentyn anabl drafferthion neilltuol i gael at wasanaethau addas yn lleol.  Fe wnaeth amryw o asiantaethau amlygu’r problemau neilltuol o addasu ac integreiddio i gymunedau a wynebid gan deuluoedd a oedd wedi mudo i leoliadau gwledig yng Nghymru o ardaloedd trefol yn Lloegr.  Yr oedd gwasanaethau megis canolfannau teuluoedd yn cael eu hystyried yn allweddol gyda chynorthwyo’r teuluoedd hyn i addasu ac i integreiddio."        

Nodiadau:

1.                  Fe ellir lawrlwytho Teuluoedd, nid Ardaloedd, sy’n Dioddef Anfaintais Cefn Gwlad, Cymorth i Deuluoedd Cefn Gwlad yng Nghymru oddi ar wefan Plant yng Nghymru yma.

2.                  Fe gynhaliwyd arolygon gydag unigolion allweddol mewn cymunedau gwledig ledled Cymru, yn cynnwys Sir Fynwy, Powys, Ceredigion, Ynys Môn, Caerfyrddin, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Sir Benfro.

3.                  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, polisi a datblygu ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Lucy Akhtar, Swyddog Datblygu Rhianta, Plant yng Nghymru, Ffôn: 029 2034 2434, e-bost: lucy.akhtar@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Teuluoedd, nid ardaloedd, sy’n dioddef anfantais cefn gwlad , 2/4/08

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence