Y mae 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn lansio pecyn cymorth newydd i gynorthwyo i newid agweddau tuag at daro yn y Senedd yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2008.
Y mae'r Pecyn Cymorth Help wrth Law yn adnodd ar-lein sy'n darparu deunyddiau y gellir eu defnyddio i:
Y mae'r Pecyn Cymorth Help wrth Law yn darparu canllaw cynhwysfawr er mwyn edrych ar y materion sy'n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol. Y mae'n cynnwys:
Y mae'n ymddangos nad oes yna un rheswm unigol pam bod pobl yn newid eu meddwl ynglŷn â tharo, ac y mae'r pecyn cymorth yn cael ei hysbysu gan amryw o'r rhesymau mwyaf cyffredin a nodir. Er enghraifft, y mae rhai pobl yn sylweddoli bod gan blant hawl i beidio â chael eu taro, yn union fel y mae gan oedolion, oherwydd bod plant yn bobl hefyd. Y mae llawer o rieni'n rhoi'r gorau i 'daro' eu plentyn pan ddônt i ddeall bod taro plant yn aneffeithiol fel ffordd o'u cael hwynt i ymddwyn yn iawn. Y mae'r pecyn cymorth hwn yn addo bod yn adnodd gwerthfawr i unrhyw un sy'n dymuno edrych ar y mater hwn yn fanylach mewn unrhyw gyd-destun, gwaith neu gartref.
Fe ellir cyrchu'r pecyn cymorth yn www.helpathandtoolkit.info ac www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info o'r 13eg o Fawrth ac fe gaiff ei ddiweddaru i gadw'n gyfoes â newidiadau i'r gyfraith, ac i ymgorffori deunydd newydd. Y mae yna "Llawlyfr Help wrth Law" hefyd wedi'i gyhoeddi fel arweinlyfr copi caled i gyflwyno'r pecyn cymorth. Y mae'r pecyn cymorth a'r llawlyfr ill dau'n ddwyieithog, yn Gymraeg a Saesneg.
Fe ddywedodd Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant: "Yr wyf yn falch iawn o gymeradwyo'r pecyn cymorth hwn, a fydd yr wyf yn hyderus yn cynorthwyo i newid agweddau ac ymddygiad tuag at gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
Y mae Llywodraeth y Cynulliad yn credu bod gan blant yr un hawl i beidio â chael eu taro ag sydd gan oedolion. Yr ydym yn dymuno darparu'r gefnogaeth i rieni a gofalwyr y maent arnynt ei hangen i reoli ymddygiad eu plant heb droi at gosbi corfforol."
Fe ddywedodd Anne Crowley, Cadeirydd Grŵp Strategaeth 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!: "Y mae'r pecyn cymorth hwn yn tynnu ynghyd, mewn fformat hawdd ei ddefnyddio, yr adnoddau gorau yr ydym wedi'u canfod i gynorthwyo i godi ymwybyddiaeth, hysbysu, ac addysgu ystod eang o gynulleidfaoedd. Y mae'r pecyn cymorth yn cael ei oleuo gan ein cyd-brofiadau ac ymarfer a werthusir. Yn ein gwaith gyda phlant, rhieni, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol, aelodau'r cyhoedd, llunwyr polisi a gwleidyddion, yr ydym wedi canfod bod llawer o bobl sy'n cefnogi hawl rhieni neu ofalwyr i daro neu i 'slapio' eu plant mewn gwirionedd yn newid eu meddyliau pan gânt gyfle i ystyried y materion o dan sylw."
Nodiadau
1. Fe ellir cyrchu'r "Pecyn Cymorth Help wrth Law" sydd ar y we yn www.helpathandtoolkit.info ac www.pecyncymorthhelpwrthlaw.info Fe ellir cael y "Llawlyfr Help wrth Law" oddi wrth 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: cau@childreninwales.org.uk
2. Y mae'r Lansio'n digwydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd ar y 13eg o Fawrth rhwng 5.30 - 7.00 yr hwyr. Fe fydd siaradwyr yn cynnwys Jane Hutt (y Gweinidog dros Blant) ac fe fydd yn cael ei gadeirio gan Greta Thomas, Cyfarwyddwr y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant yng Nghymru. Fe fydd yna hefyd gyfle i gyfarfod ag Aelodau Cynulliad, aelodau Grŵp Llywio 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable!, a chefnogwyr eraill yr ymgyrch.
3. Y mae Ymgyrch 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yn cael ei chynnal gan Plant yng Nghymru, y sefydliad ambarél dros sefydliadau plant yng Nghymru. Nod 'Sdim Curo Plant!/Children Are Unbeatable! yw:
Cysylltiadau
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ, Ffôn: 029 2034 2434, Ffôn Symudol: 07721 568090, E-bost: lynne.hill@childreninwales.org.uk