Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Y Mae Cunhadledd Dileu Tlodi Ymysg Plant yn Galw am i Dlodi Ymysg Plant yng Nghymru gael ei wneud yn “Rhywbeth sy’n Perthyn i’r Gorffennol”
Y Mae Cunhadledd Dileu Tlodi Ymysg Plant yn Galw am i Dlodi Ymysg Plant yng Nghymru gael ei wneud yn “Rhywbeth sy’n Perthyn i’r Gorffennol”

Dydd Mercher, yr 17eg o Hydref, 2007

Y MAE CYNHADLEDD DILEU TLODI YMYSG PLANT YN GALW AM I DLODI YMYSG PLANT YNG NGHYMRU GAEL EI WNEUD YN "RHYWBETH SY’N PERTHYN I’R GORFFENNOL"

Y mae trefnwyr cynhadledd allweddol yng Nghaerdydd, De Cymru i nodi Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi (17 Hydref) ac Wythnos Rhieni (16 – 20 Hydref) wedi galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wneud y frwydr yn erbyn tlodi ymysg plant yng Nghymru yn flaenoriaeth gyntaf iddynt.

Fe fydd y gynhadledd, "Llawer o Waith Eto i’w Wneud", sef canlyniad cynghrair rhwng Rhwydwaith Dileu Tlodi Ymysg Plant Cymru, a’r Fforwm Rhianta, Fforwm Magu Plant (rhwydweithiau’r sefydliad ambarél, Plant yng Nghymru), yn tynnu ynghyd academyddion, arbenigwyr ar bolisi cymdeithasol, cynrychiolwyr o elusennau plant a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal cymdeithasol.

Y mae siaradwyr allweddol yn cynnwys y Dr Brian Gibbons, AC, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol; Vivienne Sugar, Cynghorydd Cymreig i Sefydliad Joseph Rowntree; Donald Hirsch, Cynghorydd Arbennig i Sefydliad Joseph Rowntree; Nancy Platts, Pennaeth Polisi ac Ymchwil yn y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant; y Dr Deborah Ghate, Uned Ymchwil Thomas Coram; yr Athro Jane Barlow, Athro Iechyd y Cyhoedd yn y Blynyddoedd Cynnar, Sefydliad Ymchwil Gwasanaethau Iechyd; a Keith Towler, Cyfarwyddwr Rhaglenni Cymru, Achub y Plant.  Fe fydd y gynhadledd yn cael ei chadeirio gan Gwyndaf Hughes, swyddog gyda Cyngor ar Bopeth.

Fe fydd cynrychiolwyr yn galw am ganolbwyntio’n fwy eglur gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar fater tlodi ymysg plant ac am gynnydd yng ngraddfa cyflymder gweithredu mesurau i oresgyn tlodi ymysg plant yng Nghymru.  Fe fyddant hefyd yn gofyn i Lywodraeth Cynulliad Cymru sicrhau bod teuluoedd yn cael eu gosod yn nghanol datblygiad polisi ac yn cael eu gwneud yn flaenoriaeth.

Fe fydd yna hefyd alwadau am ymagweddiad amlhaenog ac amlasiantaethol mwy  cydunol i fynd i’r afael ag achosion gwaelodol tlodi ymysg plant gan dynnu ynghyd llywodraethau San Steffan a Chynulliad Cymru, cynghorau lleol, y sector gwirfoddol, ysgolion a darparwyr gwasanaethau tai ac iechyd.

Y mae yna ddigwyddiad hefyd yn cael ei drefnu yn Wrecsam, Gogledd Cymru yn ystod yr wythnos hon.  Fe fydd y digwyddiad, "Gweddnewid Bywydau: Yr hyn sy’n gweithio i deuluoedd sy’n agored i niwed", yn archwilio sut y gall gwasanaethau rhianta gynorthwyo teuluoedd mewn trafferthion ac yn amlygu enghreifftiau o arferion da.

Fe ddywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru:

"Nid oes yna fawr o amheuaeth bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dechrau cymryd mater tlodi ymysg plant o ddifri’, ond y mae yna ffordd faith i fynd a llawer mwy o adnoddau’u hangen cyn y bydd yr hyn sydd wedi’i ddisgrifio gan Gomisiynydd Plant Cymru fel ‘ein gwarth cenedlaethol’ yn cael ei wneud yn rhywbeth sy’n perthyn i’r gorffennol.  I gyrraedd targed 2010 o haneru tlodi ymysg plant, y mae’n rhaid codi 900,000 yn rhagor o blant yn y Deyrnas Unedig uwchlaw’r ffin tlodi."

Fe ddywedodd Lucy Akhtar, Swyddog Datblygu Rhianta yn Plant yng Nghymru:

"Os yw Llywodraeth Cynulliad Cymru yn dymuno gwneud eu saith amcan craidd yn realiti yng Nghymru, y mae’n rhaid iddynt sicrhau bod teuluoedd yng nghanol datblygiad polisi ac yn cael eu gwneud yn flaenoriaeth.  Y mae gan Lywodraeth Cynulliad Cymru rôl allweddol gyda sicrhau bod gwasanaethau ar gael i famau a thadau yn y cyfnod cyn-geni ac yng nghyfnodau allweddol ym mywyd eu plentyn.  Fe all cymorth ataliol o’r fath i rieni osgoi anawsterau ar gyfer plant yn ddiweddarach mewn bywyd sy’n gostus i’r plentyn, teulu’r plentyn a’r wladwriaeth."

Diwedd

Manylion cysylltu am ragor o sylwadau a chyfweliadau yn y Saesneg neu’r Gymraeg:

Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi, neu Lian Williams, Gweinyddydd

Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ

Ffôn: 029 2034 2434, Ffacs: 029 2034 3134

E-bost: lucy.akhtar@childreninwales.org.uk 

Am gyfweliadau yn Gymraeg gyda Sara Reid, Comisiynydd Plant Cynorthwyol Cymru, a fyddech cystal â chysylltu â Lian Williams ar y rhif uchod.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313