Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi, 17/10/2007
Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi, 17/10/2007

Brwsel, yr 17eg o Hydref 2007

Datganiad i’r Wasg

Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi

Ar yr 17eg o Hydref, Diwrnod Rhyngwladol dros Ddileu Tlodi, y mae Catriona Williams, Prif Weithredwr Plant yng Nghymru a Llywydd Eurochild, yn annog aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd i barhau i ymladd tlodi ymysg plant.

Y mae Catriona Williams, fel Llywydd Eurochild, yn bresennol ym Mord Gron yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon i barhau i lobïo am ffocws cryf ar oresgyn tlodi ymysg plant ac allgàu cymdeithasol ar y lefel Ewropeaidd. 

O’r 72 miliwn o bobl sy’n dal i gael profiad o dlodi yn yr Undeb Ewropeaidd (UE), y mae llawer ohonynt yn blant.  Ledled yr UE, y mae teuluoedd sydd â phlant o dan 16 mlwydd oed yn fwy tebygol o fod mewn perygl o dlodi na’r boblogaeth gyffredinol (19% o gymharu ag 16%).  Er gwaethaf mwy o dwf economaidd, y mae’r niferoedd hyn wedi bod yn cynyddu yn hytrach na gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. 

Yng ngoleuni’r ffeithiau hyn, fe wnaeth y Cyngor Ewropeaidd ym mis Mawrth 2006 ymgasglu y dylai aelod-wladwriaethau’r UE "gymryd y mesurau angenrheidiol i leihau yn gyflym ac yn arwyddocaol dlodi ymysg plant."   Fe danlinellwyd rhagor ar yr ymrwymiad hwn gan Gasgliadau’r Cyngor ym mis Mawrth, 2007, gan bwysleisio "yr angen i ymladd tlodi, yn enwedig tlodi ymysg plant."

O ganlyniad, fe ddewiswyd ‘tlodi ymysg plant’ fel y canolbwynt thematig ar gyfer ‘blwyddyn oleuni’ 2007 o fewn y Dull Agored o Gydgysylltu ar gynhwysiant cymdeithasol ac amddiffyniad cymdeithasol.  Y mae’r broses hon wedi galluogi amryw o weithredoedd ar lefel yr UE, a gynlluniwyd i wneud dadansoddiad manwl o’r ffenomen yn bosibl a hwyluso cyfnewid polisi ac arferion rhwng aelod-wladwriaethau.

Y mae Eurochild yn ystyried bod y cyfryw ‘flynyddoedd goleuni’ yn darparu cyfle rhagorol i wneud cynnydd o ran polisi mewn meysydd blaenoriaethol neilltuol.  Y mae yna botensial anferth yn bodoli i aelod-wladwriaethau ddysgu oddi wrth y naill a’r llall am bolisïau ac arferion llwyddiannus.  Fodd bynnag, y mae gan Eurochild amryw o bryderon ynglŷn â sut y mae’r flwyddyn thematig hon wedi’i gweithredu a’r canlyniadau posibl.  

Y mae’n haelodau’n teimlo bod:

  • arolwg holiadur a chyfarfod adolygiad gan gymheiriaid undydd yn annigonol i ymdrin â chymhlethdod yr ymagweddiadau polisi sydd eu hangen i fynd i’r afael â thlodi ymysg plant.
  • Y mae aelod-wladwriaethau a’r Comisiwn Ewropeaidd wedi methu ag ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn ystod y flwyddyn thematig hon. 
  • Nid yw na’r Comisiwn Ewropeaidd na llywodraethau’r aelod-wladwriaethau wedi rhoi cyhoeddusrwydd i flaenoriaeth thematig eleni.

Nid yw’n eglur hyd yn hyn pa ganlyniadau pendant a ddaw allan o ganolbwyntio thematig 2007 ar dlodi ymysg plant.  Fe gred Eurochild fod:

  • Y flwyddyn thematig hon wedi ond prin gyffwrdd ag wyneb y cyd-ddysgu dichonol sy’n bosibl drwy’r Dull Agored o Gydgysylltu.
  • Y mae gwaith dilynol yn hanfodol os yw canlyniadau pendant i’w cyflawni ar gyfer  plant a phobl ifanc yn Ewrop. 
  • Fe ddylid fod yna dargedau eglur ar gyfer lleihau tlodi ymysg plant ar lefel yr UE, yn ogystal â dangosyddion newydd a all adlewyrchu’n well y camau cynnydd tuag at les plant. 

Fe fydd Eurochild yn lleisio’r pryderon hynny yn ystod y 6ed Bord Gron Ewropeaidd ar Dlodi a Chynhwysiant Cymdeithasol, i’w gynnal ar Yr Asores o dan Lywyddiaeth Portiwgal o’r UE ar 17-18 o Hydref.  Y mae’r cyfarfodydd Bord Gron hyn yn rhan bwysig o ymagweddiad yr UE tuag at fynd i’r afael â thlodi ac allgàu cymdeithasol.  Y mae Eurochild yn gobeithio y bydd Bord Gron eleni yn cyfrannu i gynnal y momentwm i ymladd tlodi ymysg plant y tu hwnt i fframwaith ffocws thematig eleni.  Y mae Eurochild wedi drafftio Datganiad Polisi ar gyfer yr achlysur hwn, y gellir ei lawrlwytho oddi ar eu gwefan www.eurochild.org.

Am fwy o wybodaeth:

Catriona Williams, Prif Weithredwr, neu

Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi

Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ.

Ffôn: 029 2034 2434

Ffacs: 029 2034 3134

E-bost: caroline.taylor@childreninwales.org.uk neu

catriona.Williams@childreninwales.org.uk neu

mailto:sean.oneill@childreninwales.org.uk

 

Gwefan: www.childreninwales.org.uk

Nodyn i’r golygyddion:

1.      Cefndir i CHILDREN IN WALES - PLANT YNG NGHYMRU 

Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant y mae arnynt anghenion arbennig neu anableddau a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant a hyrwyddo arferion da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygiad polisi ac arferion, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth â Biwro Cenedlaethol y Plant a Plant yn yr Alban ac y mae’n aelod gweithredol o EUROCHILD (corff y mae Catriona Williams yn Llywydd arno) a hefyd y Fforwm Rhyngwladol er Lles Plant.

2. Y mae EurochildAISBL yn rhwydwaith rhyngwladol o sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio yn a ledled Ewrop i wella ansawdd bywyd plant a phobl ifanc.  Fe gaiff ei waith ei danategu gan yr egwyddorion a gorfforir yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Fe ariannir Eurochild gan y Comisiwn Ewropeaidd –Cyflogaeth DG, Materion Cymdeithasol a Chyfle Cyfartal.  Nid yw’r barnau a fynegir yn y Datganiad i’r Wasg hwn o angenrheidrwydd yn adlewyrchu barn y Comisiwn Ewropeaidd.

 

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313