Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Y Mae Plant yng Nghymru yn Croesawu Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, 17/10/07
Y Mae Plant yng Nghymru yn Croesawu Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, 17/10/07

Dydd Mercher, yr 17eg o Hydref, 2007

Y MAE PLANT YNG NGHYMRU YN CROESAWU PWYLLGOR CRAFFU PLANT A PHOBL IFANC

Y mae Plant yng Nghymru yn croesawu bod Pwyllgor Craffu y Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc wedi’i sefydlu, fel y cytunwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddoe.  Y mae Plant yng Nghymru hefyd yn croesawu aelodau’r Pwyllgor ac y mae’n gobeithio gweithio yn agos gyda hwynt yn y dyfodol. 

Fe wnaeth Plant yng Nghymru, y corff cenedlaethol i aelodau, lobïo dros y cyfryw Bwyllgor oherwydd ei fod yn hanfodol bod effeithiau holl bolisïau Llywodraeth y Cynulliad ar blant a phobl ifanc yn cael eu craffu os yw’u bywydau i gael eu gwella.  Y mae hyn yn cynnwys polisïau na fyddent fel arfer yn cael eu hystyried fel rhai sy’n uniongyrchol berthnasol i blant o ran pynciau megis cludiant, yr amgylchedd a materion gwledig, yn ogystal â phynciau sy’n fwy uniongyrchol gysylltiedig fel y gwasanaethau cymdeithasol, iechyd ac addysg.

Fe allai’r Pwyllgor hefyd fod yn gyfrifol am ystyried y cynnydd a wnaed ar yr Adroddiadau Blynyddol oddi wrth Gomisiynydd Plant Cymru.  Cyn i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gael ei gweithredu, yr oedd Comisiynydd Plant Cymru yn atebol i’r Cynulliad yn ei gyfanrwydd.  Y mae hi yn awr yn eithriadol o bwysig bod yna Bwyllgor gyda’r cyfrifoldeb hwn. 

Yn ystod tymor y Cynulliad blaenorol, yr oedd yna ddiddordeb sylweddol mewn materion plant a phobl ifanc yng ngwahanol bortffolios Gweinidogol Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Fodd bynnag, un o’r materion oedd y toreth o bolisïau nad oeddynt o angenrheidrwydd wedi’u cydlynu ac y gallent yn achlysurol wrth-ddweud neu danseilio’r naill a’r llall.  Fe wnaeth hyn hi’n anodd i’r darparwyr gwasanaethau yn y maes weithredu’r polisïau hyn.  Fe ddylai un Pwyllgor sengl yn craffu ar weithgareddau yn ymwneud â phlant a phobl ifanc fod yn effeithiol gyda mynd i’r afael â hyn.  Y mae’n neilltuol o amserol yng ngoleuni Deddf Plant 2004 sy’n gosod yn y llyfr statud y gofyniad bod asiantaethau yn gweithio gyda’i gilydd ac yn cyfuno cyllidebau.  Y mae hi felly’n hanfodol bod polisïau Llywodraeth y Cynulliad yn adlewyrchu hyn a bod yna graffu gan y Cynulliad.

 

Fe ddywed Catriona Williams, y Prif Weithredwr:

"Gan ein bod wedi ymgyrchu’n gadarn ers yr etholiadau ac yn ystod yr haf am Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc, yr wyf i ac aelodau Plant yng Nghymru wrth ein boddau y bydd Pwyllgor o’r fath yn awr yn cael ei sefydlu. Y mae’n ddatblygiad aruthrol o arwyddocaol a ddylai fod yn gallu cadw golwg ar y ffordd y gweithredir Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yng Nghymru.  Yn arwyddocaol, y mae, yn fwy na thebyg, yn un o’r Pwyllgorau Seneddol trawsbynciol cyntaf yn Ewrop, pwyllgor a’i unig ddiben yw canolbwyntio ar hawliau plant a phobl ifanc."

Am fwy o wybodaeth, a fyddech cystal â chysylltu â:

 

Catriona Williams, Prif Weithredwr, neu

Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi

Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd CF10 3BZ.

Ffôn: 029 2034 2434

Ffacs: 029 2034 3134

E-bost: caroline.taylor@childreninwales.org.uk neu catriona.Williams@childreninwales.org.uk neu mailto:sean.oneill@childreninwales.org.uk

Gwefan:  www.childreninwales.org.uk

 

- Diwedd -

 

 

Nodiadau:

Eitem 2: Cynnig i Sefydlu’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

NDM3694 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

I gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21, yn sefydlu Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.  Fe fydd y Pwyllgor yn bodoli am hyd y Cynulliad hwn.

Fe gytunwyd ar y Cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

……………………………

Eitem 3: Cynnig i Ethol y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc

NDM3695 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

I gynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Lynne Neagle (Llafur), Christine Chapman (Llafur), Helen Mary Jones (Plaid Cymru); Angela Burns (Ceidwadwyr) ac Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

Fe gytunwyd ar y Cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

 

 

1.      Cefndir i CHILDREN IN WALES - PLANT YNG NGHYMRU 


Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ei nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant y mae arnynt anghenion arbennig neu anableddau a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu a lledaenu gwybodaeth am blant a hyrwyddo arferion da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygiad polisi ac arferion, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad at wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

 

Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio mewn partneriaeth â Biwro Cenedlaethol y Plant a Plant yn yr Alban ac y mae’n aelod gweithredol o EUROCHILD (corff y mae Catriona Williams yn Llywydd arno) a hefyd y Fforwm Rhyngwladol er Lles Plant.

 

2.    Y Pwyllgor

Fe fydd y pwyllgor yn Bwyllgor Craffu o eiddo Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  Y mae gan y pwyllgorau hyn y pŵer i archwilio gwariant, gweinyddiaeth a pholisi Llywodraeth y Cynulliad a chyrff cyhoeddus cysylltiedig.  Y mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru bedwar pwyllgor craffu arall, sef y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant, y Pwyllgor Menter a Dysgu, y Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol, a’r Pwyllgor Cynaliadwyedd.

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313