Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
70 Y Cant O Ysgolion Cynradd  Disgybl Sydd Newydd Gael Profedigaeth, 27/3/07  [C]
70 Y Cant O Ysgolion Cynradd  Disgybl Sydd Newydd Gael Profedigaeth, 27/3/07 [C]
Mae profedigaeth yn fater pwysig mewn ysgolion: mae dros 350,000 o blant yn ysgolion Prydain heddiw wedi colli rhiant, brawd neu chwaer ac mae gan 70 y cant o ysgolion cynradd o leiaf un disgybl a gafodd brofedigaeth yn ddiweddar.

Dywedodd un person ifanc: "Os ydych wedi colli rhywun agos atoch, yna mae’r ffaith eich bod yn llwyddo i fynd i’r ysgol yn gamp ynddi'i hun. Mater i’r athrawon yw ei gwneud mor rhwydd ag sydd modd i chi fod yno". Mae llawer o blant a gafodd brofedigaeth yn cael cefnogaeth ardderchog yn yr ysgol, ond mae eraill yn teimlo’n ynysig a chaiff rhai eu bwlio.

‘Gall teimlo eu bod ar ben eu hunain ac yn wahanol effeithio ar iechyd, ymddygiad, dysgu a pherthynas plant a phobl ifanc a gafodd brofedigaeth. Mae’n hollbwysig fod staff ysgol yn teimlo eu bod yn medru ymateb i’w gwahanol anghenion," meddai Alison Penny, Cydlynydd Polisi a Chyfathrebu'r CBN. "Rydym wedi trefnu’r diwrnod hwn i roi syniad i staff ysgol a chynghorwyr addysg am rai o’r modelau o gefnogaeth profedigaeth a datblygiad cwricwlwm sy’n gweithio’n dda mewn ysgolion.’

Bydd cynrychiolwyr yn y gynhadledd yn clywed barn pobl ifanc am yr hyn y maent ei eisiau a’i angen gan ysgolion. Bydd cydweithwyr o ysgolion a gwasanaethau arbenigol ar brofedigaeth plentyndod yn cyflwyno modelau o gefnogaeth fugeiliol, grwpiau cefnogaeth cyfoedion, datblygu cwricwlwm, hyfforddiant a chefnogaeth i staff.

Mae ymgyrch Materion profedigaeth i blant y Rhwydwaith Profedigaeth Plentyndod yn seiliedig y Biwrô Plant Cenedlaethol a chaiff ei ariannu gan Gronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru. Mae’n galw am i wybodaeth a chefnogaeth briodol fod ar gael i bob plentyn a pherson ifanc mewn profedigaeth a’u teuluoedd, lle bynnag y maent yn byw a sut bynnag y cawsant eu profedigaeth.

- Diwedd -

Nodiadau

  1. Mae’r Rhwydwaith Profedigaeth Plentyndod yn rhwydwaith genedlaethol amlbroffesiwn o sefydliadau ac unigolion yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc a gafodd brofedigaeth. Mae’n cynnwys a chaiff ei gefnogi gan yr holl brif ddarparwyr gofal profedigaeth yn y DU. I gael gwybodaeth bellach gweler www.childhoodbereavementnetwork.org.uk
  1. Daw’r ystadegau o Holland, J (1993) Childhood Bereavement in Humberside primary schools Educational Research 35 (3) ac o Green, H et al (2004) Mental health of children and adolescents in Great Britain Llundain: HMSO a Mid-2005 Population Estimates Llundain: HMSO
  1. Mae Cronfa Goffa Diana, Tywysoges Cymru wedi darparu cyllid am dair blynedd i’r Rhwydwaith Profedigaeth Plentyndod i godi ymwybyddiaeth o anghenion plant a phobl ifanc a gafodd brofedigaeth, ac i sicrhau cefnogaeth iddynt. Ar ôl ariannu lansiad y CBN fel rhwydwaith, mae’r Gronfa yn awr yn ei helpu i sefydlu profedigaeth fel mater allweddol i’r gweithlu plant prif ffrwd ac i gefnogi ehangu gwasanaethau a chyfleoedd ar gyfer plant a gafodd brofedigaeth a’u teuluoedd.

Dolenni Cysylltiol

Childhood Bereavement Network
A national, multi-professional federation of organisations and individuals working with bereaved children and young people
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
70 Y Cant O Ysgolion Cynradd  Disgybl Sydd Newydd Gael Profedigaeth, 27/3/07  [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence