Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
17/10/06 - Teuluoedd Incwm Isel yng Nghymru Sy’n Cael eu Taro Waethaf gan Gostau Addysgol “Cudd” Meddai Rhwydwaith Dileu Tlodi Cymru
17/10/06 - Teuluoedd Incwm Isel yng Nghymru Sy’n Cael eu Taro Waethaf gan Gostau Addysgol “Cudd” Meddai Rhwydwaith Dileu Tlodi Cymru

 Mae rhieni sy’n byw ar incwm isel yng Nghymru yn ei chael yn anodd talu am gostau ‘cudd’ cynyddol ac amrywiol anfon eu plant i’r ysgol, yn ôl Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru.

Mae’r gynghrair o elusennau a gweithwyr proffesiynol ym maes plant a chynghori yn pryderu am y rhestr gynyddol o gostau ychwanegol sy’n gysylltiedig ag anfon plentyn i’r ysgol - o wisg ysgol, offer ysgol gorfodol a dillad chwaraeon brand, ymweliadau cwrs ysgol, tripiau diwylliannol, chwaraeon a rhyngwladol, gwerslyfrau, meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol, prydau ysgol, cludiant a gweithgareddau ar ôl ysgol.

Mae ffigurau a gafwyd gan y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant ar gyfer Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi (17 Hydref) yn awgrymu fod rhieni ym Mhrydain gyda’i gilydd yn talu’r swm hynod o £129 biliwn i roi eu plant drwy’r system addysg wladol ar ffurf costau ychwanegol, cysylltiedig neu gudd. Mae hyn yn gyfartaledd o bron £14,000 fesul plentyn dros eu holl yrfa ysgol gan fod yn gost flynyddol fesul plentyn o tua £1,300.

Mae’r Rhwydwaith yn dynodi tripiau ysgol fel gofynion cost ychwanegol reolaidd lle mae rhieni incwm isel yn teimlo dan bwysau neilltuol. Amcangyfrifir fod cost gyfartalog trip ysgol yn £186 y trip. Mae hon yn broblem neilltuol pan fo trip maes yn rhan o waith cwrs neu pryd, er enghraifft, mae arhosiad dros nos i gyflwyno plant i’w hysgol uwchradd newydd. Dywed addysgwyr y gall hyn fod yn fanteisiol tu hwnt i blant ond mae plant tlawd yn dysgu i beidio hyd yn oed fynd â’r llythyr gwybodaeth gartref o’r ysgol, yn ôl Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru.

Gall gwisgoedd ysgol a brynir mewn archfarchnadoedd fod yn gymharol rad ond mae rhai ysgolion yn dal i’w gwneud yn ofynnol i rieni eu prynu drwyddynt hwy neu gyflenwr neilltuol. Gall hyn gostio dwywaith swm gwisg ysgol y Cynulliad o £20, os cynhwysir offer chwaraeon brand ychwanegol.

Gall costau rhyngrwyd a chludiant hefyd fod yn ffactorau cost ychwanegol mewn ardaloedd gwledig a difreintiedig. Yng Nghymoedd De Cymru, er enghraifft, amcangyfrifir mai dim ond 26% o gartrefi sydd â mynediad i’r rhyngrwyd. Gall ymchwil ar y rhyngrwyd ar gyfer prosiectau ysgol olygu costau cludiant ychwanegol ar ôl ysgol.

Dywedodd Sara Reid, Comisiynydd Cynorthwyol Plant:

"Mae addysg yn cynnig cyfle i blant a phobl ifanc i gyflawni eu potensial a gall helpu’r rhai sy’n byw mewn tlodi yn arbennig i oresgyn llawer o’r heriau sy’n eu hwynebu. Mae’n fater o gonsyrn cynyddol fod costau ychwanegol hyd yn oed ar ysgol wladol sydd ag effaith anghymesur ar deuluoedd sydd eisoes yn ei chael yn anodd cael deupen llinyn ynghyd. Mae’r angen i dalu nid yn unig am dripiau a deunyddiau ychwanegol, ond hefyd am bethau sydd yn hanfodol os yw plant i gael y profiad a chyrhaeddiad addysgol gorau, yn dodi llawer o’n pobl ifanc dan anfantais mewn system lle maent i fod i gael eu trin yn gyfartal."

Dywedodd Sean O’Neill, cydlynydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Cymru:

"Cafodd yr ysgol bob amser ei ystyried fel man i ddysgu, gwneud ffrindiau a chymryd rhan mewn amrediad o ddigwyddiadau a gweithgaredd, beth bynnag fo cefndir y teulu, eu hincwm a ffactorau diffiniol eraill. Gall yr ysgol hefyd weithredu fel lefelydd - rhoi hunaniaeth gyfunol i blant a phobl ifanc o fewn cymuned. Eto gyda gofyn cynyddol i rieni dalu swm sylweddol o arian ar gyfer gwisg ysgol, tripiau, gweithgaredd, gweithgareddau pontio, prydau bwyd a deunyddiau ystafell ddosbarth arall, mae gan ysgol hefyd y potensial i ynysu a stigmateiddio plant, yn arbennig y rhai mewn teuluoedd incwm isel".

Dywedodd Jayne Isaac, Swyddog Polisi yr elusen plant NCH Cymru:

"Gall fod yn wir fod gan bob plentyn yng Nghymru hawl i addysg ddi-dâl, ond mae costau ychwanegol ‘cudd’ ysgol yn golygu fod nifer gynyddol o blant a rhieni yn dioddef caledi ariannol."

Dolenni Cysylltiol

Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant yng Nghymru

Adnoddau Cysylltiol

:Cost Addysg, Diwrnod y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Dileu Tlodi 2006
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
17/10/06 - Teuluoedd Incwm Isel yng Nghymru Sy’n Cael eu Taro Waethaf gan Gostau Addysgol “Cudd” Meddai Rhwydwaith Dileu Tlodi Cymru

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence