Y mae Diwrnod Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig dros Ddileu Tlodi (17eg o Hydref) wedi’i ddathlu bob blwyddyn ers 1996 ac y mae’n gyfle i wneud cysylltiadau rhwng tlodi byd-eang a thlodi mewn gwledydd datblygedig. Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn nodi’r diwrnod drwy alw ar Lywodraethau’r Deyrnas Gyfunol a’r Cynulliad i ymestyn eu hymdrechion i wireddu’r nod fforddiadwy o ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru. Y mae’r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn glymblaid o gonsyrn yn canolbwyntio ar dlodi ymysg plant sy’n cynnwys cynrychiolwyr o Barnardo’s Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NCH Cymru, y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cymunedau sy’n Gofalu, Fairbridge De Cymru, Canolfannau Cynghori, Ymddiriedolaeth Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru (statws Sylwedydd).
Y Deyrnas Gyfunol yw pedwerydd economi mwyaf y byd ond ar y llaw arall y mae ganddi un o’r lefelau uchaf o dlodi ymysg plant o’r holl wledydd diwydiannol. Yn ôl Adroddiad Blynyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru (2003):
“Y mae Cymru yn wlad sy’n dioddef mewn lleoedd oddi wrth amddifadedd sylweddol. Y mae’r cyfryw ardaloedd yn dioddef oddi wrth safonau gwael mewn iechyd, cyrhaeddiad addysgol isel, camddefnyddio sylweddau, dibyniaeth ar fudd-daliadau a phrinder rhagolygon gwaith. Y mae gormod o deuluoedd yn profi effeithiau tlodi.”
Fe ddywedodd Cadeirydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, Mike Lewis:
“Y mae partneriaid asiantaethol yn y Rhwydwaith yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau ledled Cymru ac y mae ganddynt brofiad uniongyrchol o’r problemau a amlygir yn yr Adroddiad Blynyddol ar Gynhwysiad Cymdeithasol yng Nghymru. Yr ydym yn croesawu’r canolbwyntio blynyddol ar dlodi y mae Diwrnod Dileu Tlodi'r Cenhedloedd Unedig yn ei wneud. Yr ydym yn gobeithio y bydd yn tynnu sylw at gyflwr gwirioneddol teuluoedd yng Nghymru sy’n profi’r ymryson dyddiol o geisio â chael dau ben llinyn ynghyd, yn aml gyda chymorth annigonol gan wasanaethau cyhoeddus a fawr ddim llais gyda llunio penderfyniadau.”
Fe ddengys ffigurau a gyhoeddwyd yn ddiweddar (Ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI)) fod 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
Gyda lansio Strategaeth Tlodi Plant y Cynulliad ar fin digwydd, fe ddywedodd aelod o’r Rhwydwaith, Andy James, Cyfarwyddwr Cynorthwyol dros Bolisi, Barnardo’s Cymru:
“Y mae’r gorchwyl o fynd i’r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru yn un sylweddol sy’n galw am ddull cynhwysol a chyfannol o weithredu ledled holl swyddogaethau’r Cynulliad a’i bartneriaid a chysylltiadau gyda strategaeth Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn cymeradwyo ymrwymiad Llywodraeth y Cynulliad i ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru ond y mae’n credu mai’r allwedd i lwyddiant o ran mynd i’r afael â thlodi ymysg plant yng Nghymru fydd gweithredu a chadw golwg mewn modd effeithiol ar y strategaethau hynny sydd eisoes yn bodoli a’r strategaeth tlodi ymysg plant.”
Dafydd – Wyneb tlodi yng Nghymru 2004
Y mae hanes Dafydd* yn cyfleu’r realiti y mae llawer o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn ei wynebu. Y mae Dafydd yn saith oed. Y mae’n byw gyda’i fam a dau frawd neu chwaer sy’n 10 ac 11 mlwydd oed. Y maent yn byw mewn ty a rentir yn breifat yng Ngogledd Cymru. Y mae Dafydd yn dioddef oddi wrth asthma, a waethygir gan y lleithder yn yr eiddo. Y mae llwydni yn tyfu ar y carpedi a’r dillad - sydd o’r herwydd yn golygu bod angen eu golchi byth a beunydd. Y mae Dafydd yn cael trafferthion yn yr ysgol. Y mae ef yn aml yn absennol o’r ysgol oherwydd ei broblemau iechyd ac y mae’n dioddef oddi wrth warthnodaeth. Y mae unedau’r gegin yn pydru oherwydd y cyflwr ac y mae hyn yn gwneud glanweithdra a choginio yn anodd. Y mae’i fam yn derbyn cymhorthdal incwm ac y mae’n gorfod treulio llawer mwy o incwm y cartref ar wresogi’r eiddo nag y dylai oherwydd cyflwr yr eiddo sy’n dadfeilio. Y mae hyn yn cael effaith ar ei gallu i fwydo’r teulu yn iawn ac i gael eitemau hanfodol eraill. Y mae cyflwr gwael fel hyn y tai a phwysau ariannol eraill yn peri straen emosiynol a meddyliol ar y teulu.
Y mae miloedd o blant yng Nghymru yn dioddef o ganlyniad i dlodi. Y mae teulu Dafydd ond yn un ohonynt.
Nodiadau:
1. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: Lucy Akhtar, Cydgysylltydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru ar 029 20342434, e-bost: lucy.akhtar@childreninwales.org.uk
2. Y mae hanes * Dafydd yn seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar achos bywyd go iawn a ddarparwyd gan Shelter Cymru.
3. Fe gaiff tlodi incwm ei archwilio gan ddefnyddio ystadegau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) gan dderbyn 60% o incwm canolrif fel procsi ar gyfer y ffin tlodi. Y mae Ffigurau Cartrefi Islaw’r Incwm Cyfartalog (HBAI) yn cael eu cydnabod fel dangosyddion allweddol tlodi ymysg plant yn y Deyrnas Gyfunol. Fe ddengys ffigurau am 2002/03 (a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, 2004) fod 30 y cant o blant yng Nghymru, ar ôl costau cartref, yn byw mewn cartrefi sydd ag incymau sy’n is na 60% o’r canolrif, ac y mae hyn yn uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.
4. Fe ddengys dogfen gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Ffocws Ystadegol ar Blant yng Nghymru 2003, fod gan 20.5 % o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd a 17.7% o ddisgyblion mewn ysgolion uwchradd yr hawl i gael cinio ysgol am ddim.
5. Fe ddengys Ystadegau Digartrefedd, Bwletin Ystadegol 36/2004, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Mehefin 2004 mai rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2003, yr oedd yna 2,149 o gartrefi yng Nghymru yn cael eu derbyn fel digartref, ac yr oedd 45 y cant yn gartrefi gyda phlant dibynnol neu yr oedd rhywun yn y cartref yn feichiog. O’r 572 o deuluoedd mewn llety Gwely a Brecwast, yr oedd 142 yn deuluoedd gyda phlant.
6. Er mai’r mesur incwm-isel cymharol sy’n cael y sylw mwyaf, y mae ganddo wendidau fel mesur hirdymor allgynhwysol o dlodi ymysg plant. Fe gomisiynwyd Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru gan y Swyddfa Gymreig yn 1999, ar lefel yr adran etholiadol. Y mae’n mapio graddfa’r amddifadedd lluosog yng Nghymru ac y mae’n ymdrin ag incwm, gwaith, iechyd, addysg, tai, a mynediad daearyddol at wasanaethau. Yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru: Mynegai Tlodi Plant, yr oedd yna logelli o amddifadedd 'incwm' ledled Cymru a’r awdurdodau mwyaf amddifadus oedd y rhai hynny yng nghymoedd De Cymru.
7. Ym mis Ionawr ‘llynedd, fe sefydlwyd Grwp Gorchwyl Tlodi Plant i gynghori Llywodraeth y Cynulliad ynglyn â datblygu strategaeth i oresgyn tlodi ymysg plant yng Nghymru. Fe gyhoeddodd y Grwp Gorchwyl adroddiad ym mis Mehefin eleni, a oedd yn destun ymgynghori tan fis Medi, 2004. Fe fydd canlyniadau’r ymgynghori yn bwydo gwybodaeth i’r strategaeth derfynol.
Tlodi yn yr Unfed Ganrif ar Hugain: y Ffeithiau a’r Ffigurau