Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
15/7/05: O Ofal i Brifysgol
15/7/05: O Ofal i Brifysgol

Fe ddengys yr astudiaeth gyntaf erioed o fyfyrwyr prifysgol sydd â chefndir o fod dan ofal y gall ymadawyr â gofal elwa oddi wrth addysg uwch os cânt y math cywir o anogaeth a chefnogaeth. Y mae llai nag un o bob cant o ymadawyr â gofal yn cyrraedd prifysgol, o gymharu â bron hanner y bobl ifanc sy’n byw gyda’u teuluoedd eu hunain.  “Mynd i Brifysgol o Ofal” yw’r adroddiad terfynol o’r astudiaeth bum mlynedd, sef ‘Fesul Graddau’, a gomisiynwyd gan Ymddiriedolaeth Frank Buttle, a wnaeth ddilyn tri grwp olynol o bobl ifanc a ddechreuai ar addysg uwch o gefndir gofal mewn awdurdod lleol.

Y mae canfyddiadau’r ymchwil yn awgrymu bod gan lawer mwy o’r bobl ifanc hyn, o gael y cyfle, y potensial i elwa oddi wrth addysg uwch.  Fe anogir awdurdodau lleol, ysgolion a phrifysgolion i gydweithio i godi dyheadau ac i ddarparu’r gefnogaeth ariannol, ymarferol ac emosiynol sydd eu hangen.

Fe gynlluniwyd yr astudiaeth ‘Fesul Graddau’ i ddylanwadu ar bolisi ac arferion yn genedlaethol ac yn lleol.

Y mae Plant yng Nghymru yn cynnal seminar i archwilio i gyhoeddiad canlyniadau’r gwaith ymchwil, a gyflwynwyd gan y cydawdur, Sonia Jackson, Cymrawd Athrawol Uned Ymchwil Thomas Coram, yr Athrofa, Prifysgol Llundain. 

Gyda siaradwyr gwadd:

  • Carol Floris, Rheolwr Cefnogi a Chynghori, a Mathew Taylor, Swyddog Datblygu Hyfforddiant, Voices from Care
  • Sally Halls, Cyfarwyddwr Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
  • Katherine Maddy, Rheolwr Campws Cyntaf, Prifysgol Morgannwg
  • Gerri McAndrew, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Frank Buttle

Fe gadeiriwyd gan Catriona Williams, Prif Weithredwr, Plant yng Nghymru, a ddywedodd: “Ni allaf bwysleisio digon y pwysigrwydd o gefnogi plant dan ofal cyhoeddus i gyflawni, nid dim ond i oroesi.  Drwy bennu disgwyliadau sy’n rhy isel, y mae yna berygl ein bod yn rhwystro plant sy’n derbyn gofal rhag cyflawni’u llawn botensial.”

Nodiadau:

Fe gyhoeddir ‘Going to University from Care’ gan Sonia Jackson, Sarah Ajayi a Margaret Quigley gan yr Athrofa.  Cysylltwch â:

Ffôn:  020 7612 6050
E-bost: ioe@johnsmith.co.uk
Gwefan: http://ioewebserver.ioe.ac.uk/io

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
15/7/05: O Ofal i Brifysgol

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence