Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
2/2/05: Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn amlygu’r peryglon i iechyd o fod yn dlawd yn y Diwrnod Byw’n Iach yn y Cynulliad
2/2/05: Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn amlygu’r peryglon i iechyd o fod yn dlawd yn y Diwrnod Byw’n Iach yn y Cynulliad

Fe fydd Aelodau’r Cynulliad a’r staff yn cymeryd rhan yn lansiad y Grwp Hollbleidiol ar Fyw’n Iach ar yr 2ail o Chwefror.   

Fe fydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru (ac aelodau’r Rhwydwaith: NCH Cymru a Barnardos Cymru) yn darparu gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad a’r staff am y cysylltiadau rhwng canlyniadau iechyd a thlodi ymysg plant a’r frwydr sy’n wynebu rhai teuluoedd i fwyta’n iach ar incwm isel. 

Y mae adolygiad gan y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yng Nghymru wedi amlygu’r peryglon i iechyd a lles o fod yn dlawd ym Mhrydain yn yr unfed ganrif ar hugain. 

Fe ddengys ffigurau diweddar fod 30 y cant o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi, sy’n uwch na’r cyfartaledd Prydeinig.  Y mae plant a enir i dlodi yn fwy tebygol o gael eu geni’n gynnar, o fod yn pwyso’n is ar eu genedigaeth, ac o fod yn dioddef oherwydd iechyd gwael na phlant mwy cefnog.   

Y mae dietau pobl sydd ar incwm isel yn aml yn wael o ran maeth, gan ddibynnu ar ‘galorïau rhad’ o fwydydd cost isel sydd wedi’i brosesu.  ‘Llynedd, fe ganfu astudiaeth gan yr NCH, “Going Hungry / Bod yn Llwglyd”, fod mamau weithiau yn byw heb fwyd i ddiwallu anghenion eu plant. 

Fe ganfu Barnardos fod hyn yn arbennig o wir yn ystod gwyliau’r ysgol pan fo teuluoedd yn gorfod ymdopi heb ginio ysgol am ddim.  Y mae cael gafael ar fwyd iach, fforddiadwy yn fater o bwysigrwydd i deuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, medd y grwp pwysau.   

Un o’r negeseuon allweddol a ddeilliodd o adroddiad ‘Gwrandewch’ gan Achub y Plant oedd effaith tlodi ar ddietau plant a pha mor anodd y gall hi fod i fynd i ysbytai a chanolfannau triniaeth eraill os nad oedd gennych gar neu ddigon o arian i dalu am dacsi.

"Beth fyddai’n digwydd os na allwch fforddio’r tacsi i fynd i’r ysbyty'  Fel arall, y mae’n golygu tri bws – fe fyddai’n cymeryd drwy’r dydd ichi gyrraedd yno.”  Bachgen 13 mlwydd oed

Yn frawychus, y mae plant tlawd yn 15 gwaith fwy tebygol o farw mewn tân gartref na phlant mwy cefnog ac yn dair gwaith fwy tebygol o gael eu taro gan gar.

Y mae tai sy’n orlawn o bobl yn cynyddu’r risg o glefyd heintus neu anadlol.  Fe all lleithder, llwydni ac angar/anwedd achosi rhychwant o afiechydon megis asthma ac alergeddau. 

Fe ddywedodd Cadeirydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, Mike Lewis (Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru):

“Y mae yna batrwm o anghydraddoldeb cynyddol ym Mhrydain.  Rhwng 1994/95 a 2001/02, fe wnaeth y deg y cant cyfoethocaf ennill dau y cant yn fwy o’r cyfanswm incwm (naw ar hugain y cant) tra bod cyfran y deg y cant tlotaf wedi aros yr un fath ar ddau y cant.  Fe ganfu adroddiad gan Wasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru, sef ‘Amddifadedd ac Iechyd’, fod anghydraddoldebau iechyd dros y ddwy ddegawd ddiwethaf wedi lledu a bod gwelliannau o ran iechyd i’r grwpiau sydd fwyaf dan anfantais wedi bod yn gymharol fychan.” 

Beth sydd angen ei wneud'

Y mae lleihau effeithiau tlodi ar iechyd plant yn uniongyrchol yn fater cymhleth.  

Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn ceisio â chael dull cynhwysol a chyfannol o weithredu ledled holl swyddogaethau’r Cynulliad, ei bartneriaid a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

Y mae gwella iechyd ac ansawdd bywyd i blant yn awr ac yn y dyfodol yn golygu gwell cyfleusterau hamdden; mwy o fannau chwarae; yr amgylchiadau a fydd yn galluogi plant i gerdded yn ddiogel i’r ysgol (e.e. dulliau arafu traffig) a’r modd o gael bwyd o ansawdd da gartref ac yn yr ysgol.  Y mae angen buddsoddi mwy o adnoddau ym mhenderfynyddion iechyd, megis tai a chludiant. 

Fe ychwanegodd Llefarydd (Mike Lewis) ar ran Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant  Cymru:

“Y mae meddylfryd y Llywodraeth ar y mater o leihau ac atal tlodi yn fwy cysylltiedig nag erioed o’r blaen, ond y mae angen gwneud mwy i sicrhau bod polisïau gwrth-dlodi yn cael eu sefydlu’n gadarn mewn cynllunio hirdymor dros ddegawdau, ac nid dim ond tan ddiwedd oes unrhyw fenter neu bartneriaeth neilltuol.” 

Fe gynhelir y Diwrnod Byw’n Iach drwy’r dydd ar ddydd Mercher, yr 2ail o Chwefror 2005 yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd.  Fe fydd y Grwp Hollbleidiol yn cael ei lansio am 5.30 yr hwyr yn y Man Heidio yn y Cynulliad.

Nodiadau i’r Golygydd

1.         Fe wahoddir aelodau’r cyfryngau i fynychu’r Diwrnod Byw’n Iach ar gyfer cyfweliadau a thynnu lluniau.  Am ragor o fanylion, cysylltwch â Leighton Jenkins ar 029 20 898 027 neu (ffôn symudol) 07717747845. 

2.         Am ragor o wybodaeth am dlodi ac iechyd, cysylltwch â Lucy Akhtar, Cydlynydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant, Ffôn: 02920 342434 neu 07800 822624.

3.             Y mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant ac y mae Aelodau’i Grwp Llywio yn cynnwys Barnardos Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NCH Cymru, Cymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant Cymru, Cymunedau sy’n Gofalu, Fairbridge Cymru, Cyngor ar Bopeth, Ymddiriedolaeth Frank Buttle, Shelter Cymru, a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.  Y mae gennym hefyd nifer cynyddol o Aelodau Cefnogol sy’n cefnogi’n gweledigaeth na ddylai’r un plentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020.  Fe ddaw’r aelodau hyn o drawstoriad eang o sefydliadau gwirfoddol a statudol.

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
2/2/05: Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn amlygu’r peryglon i iechyd o fod yn dlawd yn y Diwrnod Byw’n Iach yn y Cynulliad

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence