Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Adroddiad Newydd yn tynnu sylw at Dlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yng Nghymru Wledig, 16/10/09
Adroddiad Newydd yn tynnu sylw at Dlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yng Nghymru Wledig, 16/10/09

Mae adroddiad a ryddhawyd yfory, yn tynnu sylw at y gwahanol ffyrdd y mae plant a phobl ifanc sy'n byw mewn cartrefi incwm isel, neu gartrefi sy'n derbyn budd-daliadau yng nghefn gwlad Cymru yn cael eu heithrio o wasanaethau sydd ar gael i'w cyfoedion mewn ardaloedd trefol.

Mae'r adroddiad, a gyhoeddir i nodi Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi, yn dangos sut y mae plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn methu allan ar eu hawliau i gyfranogiad a mynediad i wasanaethau, fel y nodir hwy yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP), sy'n dathlu ei ugeinfed pen-blwydd ym mis Tachwedd.  Mae'r adroddiad yn nodi bod llawer o'r plant a'r bobl ifanc yma yn cael eu hallgau o weithgareddau, gan gynnwys clybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau hamdden a gwasanaethau iechyd, a bod problemau gyda chludiant cyhoeddus yn gwaethygu'r sefyllfa drwy sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i fod yn ddibynnol ar eu rhieni i'w cludo o le i le.

Fel yr esboniodd un person ifanc a gafodd ei ddyfynnu yn yr adroddiad: "Yn yr haf dwi byth yn cael gweld fy ffrindiau a dwi wedi colli adnabod arnynt ... fedra i ddim picio i'w gweld nhw oherwydd eu bod yn byw yn rhy bell.  Ond basa hi'n iawn os fasa yna fysus."

Mae'r adroddiad hefyd yn edrych ar y diffyg cyfleoedd cyflogaeth a hyfforddiant mewn ardaloedd gwledig, cost gymharol uchel tai a phroblem tlodi tanwydd.

Esboniodd Anita Myfanwy, Swyddog Datblygu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant:

"Gan fod tlodi gwledig yn beth anodd iawn i'w weld mae'n aml yn cael ei esgeuluso gan wneuthurwyr polisi.  Mae teuluoedd rhai o'r plant a'r bobl ifanc hyn wedi byw yn eu cymunedau ers cenedlaethau, ac eto nid yw rhai o'u hawliau sylfaenol fel dinasyddion Cymru yn cael eu bodloni.  Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi seilio ei Strategaeth Tlodi Plant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n dathlu ei ugeinfed pen-blwydd eleni.  Maent yn nodi y dylai plant a phobl ifanc allu cyrraedd eu llawn botensial ni waeth ble y byddant yn byw, ac ni waeth beth fo'u hamgylchiadau teuluol, ac y dylent allu cymryd rhan yn eu cymunedau, a chael dweud eu barn mewn unrhyw faterion sy'n ymwneud â nhw.  Dyma eu hawliau.  Fodd bynnag, rydym yn gweld bod plant a phobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn methu â chwarae rhan yn eu cymunedau, yn methu â manteisio ar gynlluniau nofio am ddim a chlybiau ar ôl ysgol, a hynny oherwydd ble y maent yn byw a'u hamgylchiadau teuluol.  Mae plant, pobl ifanc, a theuluoedd yn cael eu heithrio'n gymdeithasol.  Mae cartrefi incwm isel a chartrefi sy'n derbyn budd-daliadau yn arbennig o fregus ac yn fwy tebygol o ddioddef eithrio ac amddifadedd cymdeithasol os byddant yn byw yng nghefn gwlad Cymru."

Mae'r adroddiad yn gosod nifer o argymhellion i wella'r sefyllfa ar gyfer plant a phobl ifanc yng nghefn gwlad Cymru.  Mae Llywodraeth y Cynulliad eisoes wedi ymrwymo i gynhyrchu Strategaeth Tlodi Plant Cenedlaethol ac mae'r adroddiad yn galw arnynt i sicrhau eu bod, wrth wneud hynny, yn rhoi sylw penodol i'r heriau arbennig y bydd plant a theuluoedd bregus sy'n profi Tlodi Plant yn eu hwynebu mewn ardaloedd gwledig.

Nodiadau

  1. Fe ellir lawrlwytho'r adroddiad "Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig" oddi ar wefan Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru: www.dileutlodiplantcymru.org.uk  Bydd y fersiwn Gymraeg ar gael yn fuan.
  2. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn glymblaid o sefydliadau pryderus sy'n canolbwyntio ar ddileu tlodi plant yng Nghymru, yn cael ei gydlynu a'i rheoli o ddydd i ddydd gan asiantaeth Plant yng Nghymru.  Mae'r grŵp sy'n ei lywio yn cynnwys cynrychiolwyr o bob un o'r sectorau gwirfoddol a statudol, ac mae gan y Rhwydwaith nifer cynyddol o aelodau cefnogol o draws doriad eang o asiantaethau.  Mae aelodau'r Grŵp Llywio yn cynnwys:
  3. Barnardo's Cymru, Plant yng Nghymru, Achub y Plant Cymru, NEA Cymru, Gweithredu dros Blant, NSPCC Cymru, CLlLC, Cyngor ar Bopeth, GICC Wales, Catch 22/Communities that Care, Shelter Cymru, the Frank Buttle Trust, Fairbridge Cymru, Llais Defnyddwyr Cymru, TUC Wales and the Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru.
  4. Mae Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru yn gweithredu ers 2001 ac yn cefnogi gweledigaeth y Llywodraeth na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn byw mewn tlodi erbyn 2020. 
  5. Plant yng Nghymru yw'r sefydliad cenedlaethol cwmpasol ar gyfer sefydliadau ac unigolion gwirfoddol, statudol a phroffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.plantyngnghymru.org.uk.  Sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 a daeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Ein hamcan yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Cymreig.  Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n haelodau, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol, gwneuthurwyr polisïau a grwpiau defnyddwyr er mwyn gwella bywydau'r holl blant sy'n byw yng Nghymru, ond yn enwedig felly plant ifanc, y rhai sy'n cael eu heffeithio gan ansefydlogrwydd teuluol, plant gydag anghenion arbennig neu anableddau, a'r rhai sy'n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Byddwn yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hybu arfer da mewn gwasanaethau plant drwy waith ymchwil, datblygu arfer a pholisi, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i lyfrgell a gwasanaeth gwybodaeth eang.  Mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
  6. Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dileu Tlodi ar ddydd Sadwrn 17 Hydref 2009 - 
  7. http://www.idrc.ca/en/ev-104360-201-1-DO_TOPIC.html

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â'r datganiad yma, cysylltwch â:

(drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg)

Anita Myfanwy,

Swyddog Datblygu'r Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant yn

Plant yng Nghymru

Ffôn: 29 2034 2434

E-bost: anita.myfanwy@childreninwales.org.uk 

Neu (Saesneg yn unig)

Sean O'Neill

Cyfarwyddwr Polisi

Plant yng Nghymru

Ffôn: 029 2034 2434

E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk 

Dolenni Cysylltiol

Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru
yn glymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar dlodi ymysg plant yng Nghymru

Adnoddau Cysylltiol

:Tlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yn y Gymru Wledig
Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Adroddiad Newydd yn tynnu sylw at Dlodi Plant ac Allgau Cymdeithasol yng Nghymru Wledig, 16/10/09

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence