Mae ymchwil newydd yn datgelu maint y defnydd o gyffuriau ac alcohol ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw. Fodd bynnag, mae'r ymchwil yn mynd rhagddo i ddangos y gall perthynas tad/plentyn gref weithredu fel ffactor diogelu rhag y gwaethaf o'r gormodeddau hyn.
Mae'r adroddiad, "Tyfu Fyny gyda Dad: Tadau a'u Heffaith ar Ddefnyddio Sylweddau", i'w lansio gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn y Gynhadledd Tyfu i Fyny gyda Dad yng Nghanolfan Gynadledda ESIS, Caerdydd ar y 9fed o Fedi. Fe fydd y gynhadledd hefyd yn cynnwys prif gyflwyniad gan Sue Palmer, awdur Toxic Childhood, fydd yn siarad am ei llyfr newydd, 21st Century Boys.
Mae'r adroddiad yn ganlyniad y dadansoddiad o ymchwil a gynhaliwyd gan Plant yng Nghymru a Catch22, gan ddefnyddio'r Rhaglen Cymunedau sy'n Gofalu. Fe wnaeth y dadansoddiad edrych ar bron 18,000 o holiaduron a gwblhawyd gan bobl ifanc oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae'n edrych ar sut mae'r bobl ifanc yn ystyried eu perthnasoedd gyda'u tad ac mae'n cydberthnasu'r wybodaeth hon i ba un ai a ydynt yn yfed, ysmygu a defnyddio canabis. Mae hefyd yn ystyried pa effaith sydd gan ganfyddiadau'r bobl ifanc o agweddau'u rhieni ar eu tueddiad i ddefnyddio sylweddau.
Fe ddywedodd Tony Ivens, Swyddog Datblygu Tadolaeth yn Plant yng Nghymru: "Mae gan natur y berthynas sydd gan y plant hyn gyda'u tadau yn amlwg effaith sylweddol ar eu dewisiadau o'u ffyrdd o fyw pan ddaw hi'n fater o ddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Po fwyaf y gallwn ni wneud i gefnogi'r bobl ifanc a'u tadau, fel ei gilydd, yn y berthynas hon, po orau mae'r canlyniadau i bobl ifanc yn mynd i fod. Mae amryw o bobl ifanc yn rhoi gwybod nad ydynt yn gweld eu tad, er bod gan blant sy'n cael eu gwahanu oddi wrth un, neu'r ddau riant, yr hawl i gynnal cysylltiadau personol a chyswllt uniongyrchol gyda hwy. Mae'n feirniadaeth drist o'n cymdeithas bod y ffaith bod bron hanner y bobl ifanc hyn yn dal i adrodd bod teimlo'n agos at eu rhiant absennol ond yn gweithredu i atgyfnerthu'r farn hon."
Fe ddywedodd Pat Dunmore, Cyfarwyddwr Cymunedau sy'n Gofalu yng Nghymru dros Catch22: "Fe wyddom y pwysigrwydd o rianta da ym mywydau plant, ond am amser maith fe welwyd hynny fel swyddogaeth y fam. Mae'n eglur o'r ymchwil hwn nad yw hi'n ddigon i dadau fod ond bod o gwmpas. Yr hyn sy'n gwneud y gwahaniaeth yw cael perthynas dda rhwng tadau a'u plant. Os gall tadau gael hynny'n iawn, fe all wneud cymaint o wahaniaeth i'w plant, gan eu cynorthwyo hwy i dyfu i fyny'n ddiogelach ac yn hapusach. Ac mae yna lawer y gellir ei wneud i gynorthwyo tadau i gyflawni hynny."
1. Mae'r adroddiad "Tyfu Fyny gyda Dad: Tadau a'u Heffaith ar Ddefnyddio Sylweddau" yn cael ei lansio yn y gynhadledd Tyfu i Fyny gyda Dad yng Nghanolfan Gynadledda ESIS, Nantgarw, Caerdydd, ar 9 Medi 2009 gan y Dr Brian Gibbons, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.
2. 'Roedd yr ystadegau wedi'u seilio ar 17,933 o holiaduron a gasglwyd oddi wrth bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7 i 11, a fynychai ysgolion mewn pedair ardal awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod blwyddyn ysgol 2004-05. 'Roedd y sampl yn cynnwys 3465 o holiaduron a gwblhawyd gan blant 15 mlwydd oed.
3. Plant yng Nghymru yw'r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk. Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. Yr ydym yn gweithio'n agos gyda'n haelodau, sy'n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau'r holl blant sy'n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a'r sawl sy'n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth. Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
4. Y mae Catch22 yn elusen genedlaethol sy'n cynorthwyo pobl ifanc allan o sefyllfaoedd anodd, www.catch-22.org.uk Yr ydym yn gweithio gyda 34,000 o bobl ifanc mewn mwy na 100 o drefi a dinasoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yr ydym yn gweithio gyda'u teuluoedd a'u cymunedau, ble bynnag a pha bryd bynnag y mae ar bobl ifanc ein hangen ni fwyaf: mewn ysgolion, ar y strydoedd, yn y cartref, mewn canolfannau cymuned, canolfannau siopa, mewn gorsafoedd heddlu, ac yn y ddalfa. Fel y mae pobl ifanc yn dod yn fwy cadarnhaol, cynhyrchiol ac annibynnol, y mae'r gymuned i gyd yn elwa. Y mae Cymunedau sy'n Gofalu yn rhaglen atal hirdymor a gynlluniwyd i lywio pobl ifanc ymaith oddi wrth drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau ac alcohol. Y mae'r broses yn golygu gwneud arolwg manwl o bobl ifanc ynglŷn â'u profiadau, agweddau ac ymddygiad, sy'n asesu'r risgiau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a'r cymorth y mae arnynt angen. Y mae hyn wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i atal ac i leihau'r ymddygiad hwn. Y mae Cymunedau sy'n Gofalu yn cael ei gynnal gan yr elusen genedlaethol i bobl ifanc, Catch22. Ers iddynt gael eu cyflwyno yn 1997, y mae Cymunedau sy'n Gofalu wedi gwneud arolwg o fwy na 450,000 o bobl ifanc mewn cymunedau yn y Deyrnas Unedig.
5. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i'r wasg, cysylltwch â: Tony Ivens yn Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: tony.ivens@childreninwales.org.uk
Am ragor o wybodaeth parthed Catch22 a'r rhaglen Cymunedau sy'n Gofalu, cysylltwch â: Pat Dunmore yn Catch22, 6ed Llawr, Tŷ Alexandra, Heol Alexandra, Abertawe SA1 5ED, Ffôn: 07773 429910, E-bost: pat.dunmore@catch-22.org.uk