Y mae ystadegau rhagarweiniol a gyhoeddwyd heddiw gan Plant yng Nghymru a Catch22 yn dangos bod plant sy’n mwynhau perthynas dda gyda’u tad yn llai tebygol o ymhél ag yfed o dan oed, cymryd cyffuriau neu ysmygu canabis. Y mae’r ystadegau yn rhan o’r dadansoddiad o arolwg a wnaed gan Catch22 o bron 18,000 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru fel rhan o’r rhaglen Cymunedau sy’n Gofalu.
Y mae’r dadansoddiad yn ategu’r hyn sydd bellach yn gorff cynyddol o dystiolaeth bod perthynas tad-plentyn dda yn allweddol i’r ffordd y mae pobl ifanc yn ymddwyn tra eu bod yn tyfu i fyny.
Fe ddywedodd Tony Ivens, Swyddog Datblygu Tadolaeth yn Plant yng Nghymru: "Y mae’r ymchwil hwn yn dangos am y tro cyntaf fuddion penodol i bobl ifanc yng Nghymru o gael tad yn eu bywydau sy’n cymryd rhan o ddifri’. Tra bod cefnogaeth draddodiadol ar gyfer rhieni wedi canolbwyntio ar famau, fe wyddom yn awr bod yn rhaid inni gynnwys tadau yn yr hafaliad os ydym i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’n pobl ifanc."
Fe ddywedodd Pat Dunmore, Cyfarwyddwr Cymunedau sy’n Gofalu yng Nghymru dros Catch22: "Y mae hyn yn dangos y gwerth o ddefnyddio ymagweddiad wedi’i seilio ar dystiolaeth. Y mae’r ymchwil yn dynodi bod cael perthynas gadarnhaol gyda’ch tad i blant sy’n tyfu i fyny yng Nghymru yr un mor bwysig â chael perthynas gadarnhaol gyda’ch mam. Y mae arnom angen gwastatáu’r maes chwarae a chynnwys tadau er lles ein plant i gyd."
Y mae’r adroddiad llawn o’r dadandsoddiad, Growing up with Dad / Tyfu i Fyny gyda Dad, i fod i gael ei gyhoeddi ym mis Mai.
1. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk. Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth. Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
2. Y mae Catch22 yn elusen genedlaethol sy’n cynorthwyo pobl ifanc allan o sefyllfaoedd anodd, www.catch-22.org.uk Yr ydym yn gweithio gyda 34,000 o bobl ifanc mewn mwy na 100 o drefi a dinasoedd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yr ydym yn gweithio gyda’u teuluoedd a’u cymunedau, ble bynnag a pha bryd bynnag y mae ar bobl ifanc ein hangen ni fwyaf: mewn ysgolion, ar y strydoedd, yn y cartref, mewn canolfannau cymuned, canolfannau siopa, mewn gorsafoedd heddlu, ac yn y ddalfa. Fel y mae pobl ifanc yn dod yn fwy cadarnhaol, cynhyrchiol ac annibynnol, y mae’r gymuned i gyd yn elwa. Y mae Cymunedau sy’n Gofalu yn rhaglen atal hirdymor a gynlluniwyd i lywio pobl ifanc ymaith oddi wrth drosedd, ymddygiad gwrthgymdeithasol, cyffuriau ac alcohol. Y mae’r broses yn golygu gwneud arolwg manwl o bobl ifanc ynglŷn â’u profiadau, agweddau ac ymddygiad, sy’n asesu’r risgiau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu a’r cymorth y mae arnynt angen. Y mae hyn wedyn yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu strategaeth ar gyfer awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill i atal ac i leihau’r ymddygiad hwn. Y mae Cymunedau sy’n Gofalu yn cael ei gynnal gan yr elusen genedlaethol i bobl ifanc, Catch22. Ers iddynt gael eu cyflwyno yn 1997, y mae Cymunedau sy’n Gofalu wedi gwneud arolwg o fwy na 450,000 o bobl ifanc mewn cymunedau yn y Deyrnas Unedig.
3. Fe seiliwyd yr ystadegau ar 17,933 o holiaduron a gasglwyd oddi wrth bobl ifanc ym Mlynyddoedd 7 i 11, a fynychodd ysgolion mewn ardaloedd pedwar awdurdod lleol yng Nghymru yn ystod blwyddyn ysgol 2004-05. Yr oedd y sampl yn cynnwys 3,465 o holiaduron a gwblhawyd gan blant 15 mlwydd oed.
4. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â: Tony Ivens yn Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: tony.ivens@childreninwales.org.uk
Am ragor o wybodaeth parthed Catch22 a’r rhaglen Cymunedau sy’n Gofalu, cysylltwch â: Pat Dunmore yn Catch22, 6ed Llawr, Tŷ Alexandra, Heol Alexandra, Abertawe SA1 5ED, E-bost: pat.dunmore@catch-22.org.uk