Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 19/03/09 [C]
Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 19/03/09 [C]

Fe fydd rhieni ac ymarferwyr yn canfod mwy am y rhaglen newydd sy’n gwella’r cymorth a ddarperir i deuluoedd plant ieuainc gydag anableddau mewn digwyddiad yn Llandrindod dydd Llun nesaf, 23 Mawrth 2009.

Fe gafodd y Rhaglen Cefnogi Cynnar ei datblygu yn Lloegr i wella ansawdd, cysondeb a chydgysylltu gwasanaethau ar gyfer plant anabl o dan bum mlwydd oed a’u teuluoedd. Fe’i cynlluniwyd i sicrhau bod yr holl wasanaethau a ddarperir ar gyfer y teuluoedd hyn wedi’u cydgysylltu’n dda ac yn ymatebol i’w anghenion. 

Y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn awr wedi cytuno i weithredu Cefnogi Cynnar ledled yr holl 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru.  Fe fydd hyn yn golygu y bydd awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd Cymru yn mabwysiadu pecyn o ddeunyddiau a hyfforddiant Cefnogi Cynnar i’w galluogi hwy i ddarparu’r gefnogaeth iawn i deuluoedd.

Y sefydliad ymbarél dros blant, Plant yng Nghymru, sy’n arwain y bartneriaeth i ddatblygu gwybodaeth a hyfforddiant Cefnogi Cynnar ar gyfer Cymru. 

Fe ddywedodd Lynne Hill, Cyfarwyddwr Polisi yn Plant yng Nghymru: "Yr wyf wrth fy modd ein bod wedi ennill y contract hwn, a fydd yn ein galluogi ni, gyda’n partneriaid, i ddatblygu’r rhaglen Cefnogi Cynnar yng Nghymru.  Yr ydym yn hyderus y bydd plant anabl ieuainc a’u teuluoedd, a’r ymarferwyr sydd yn eu cymorth, yn gweld gwir fuddion oddi wrth y rhaglen."

1.      Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk.  Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

2.      Y Diwrnod Gwybodaeth yw’r cyntaf mewn cyfres o dri o Ddiwrnodau Gwybodaeth i godi ymwybyddiaeth o’r Rhaglen Cymorth Cynnar.  Fe fydd y rhain yn cael eu cynnal yn Llandrindod ar 23 o Fawrth 2009, ac yn Ne Orllewin Cymru a Wrecsam ar y 10 a 12 o Fehefin 2009, yn ôl eu trefn.  Fe gynhelir lansiad cenedlaethol ym mis Medi 2009.

3.     Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Lynne Hill: Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: Lynne.Hill@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cefnogi Teuluoedd Plant Anabl Ieuainc, 19/03/09 [C]

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence