Y mae’r rhain yn cynnwys y "Fenter Hawliau, Parch a Chyfrifoldeb (RRR)", y dywedwyd ei bod wedi gwella ymddygiad cymaint mewn ysgolion yn Hampshire fel y cafodd ei disgrifio fel "chwyldro tawel."
Fe ddywedodd Sarah Thomas: "Y mae ymagweddiad ysgol gyfan tuag at drwytho cyd-egwyddorion a chyd-werthoedd i strwythurau ac arferion ein hysgolion yn ffordd gydnabyddedig ymlaen – y mae Gwobr Ysgolion sy’n Parchu Hawliau o eiddo UNICEF yn darparu modd llwyddiannus o gyflawni hyn. Nod y gynhadledd yw cyflwyno gweithwyr proffesiynol i’r Wobr a chychwyn newid cadarnhaol."
1. Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru, www.plantyngnghymru.org.uk. Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993. Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig. Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd. Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth. Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.
2. Fe fydd y gynhadledd, "Chwyldro Tawel", yn cael ei chynnal ar yr 20fed o Fawrth 2009, yng Ngwesty’r Park Thistle yng Nghaerdydd. Y mae’r prif siaradwyr yn cynnwys:
Jane Hutt, AC, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a SgiliauY Dr Emily Lovegrove, Arbenigwr mewn Technegau Gwrth-Fwlio Edward Waller, Pennaeth Addysg, UNICEF y DUIan Massey, Arolygydd Sir dros Addysg Ryngddiwylliannol, Cyngor Sir Hampshire Janet Hook, Arweinydd Tîm - Datblygu Rheoli Ymddygiad, Cyngor Bwrdeistref Metropolitan Rochdale Yr Athro Ken Reid, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Metropolitan Abertawe
3. Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Sarah Thomas: Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: sarah.thomas@childreninwales.org.uk