Logo
English
  • Cartref
  • |
  • Newyddion
  • |
  • Amdanom Ni
  • |
  • Ein Gwaith
  • |
  • Meysydd Gwaith
  • |
  • Aelodaeth
  • |
  • Polisi
  • |
  • Digwyddiadau
  • |
  • Hyfforddiant
  • |
  • Yn Eich Ardal
  • |
  • Swyddi
  • |
  • Cysylltiadau
Adran Aelodau Archif Polisi Confensiwn y CU Cyhoeddiadau Buddion Aelodaeth
  • Newyddion
    • Datganiad i’r Wasg

Aelodau i Fewngofnodi

Cofrestrwch i ddefnyddio'r wefan
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Cadw Plant yn Ddiogel Rhag Niwed, 10/12/08
Cadw Plant yn Ddiogel Rhag Niwed, 10/12/08

Y mae Plant yng Nghymru’n croesawu dau adroddiad, a gyhoeddwyd gan Sefydliad Iechyd y Byd heddiw, sy’n amlygu’r golled enfawr i gymdeithas a achoswyd gan anafiadau yn ystod plentyndod. Y mae’r adroddiadau, sy’n ymwneud ag anafiadau yn ystod plentyndod yn Ewrop ac yn fyd-eang, hefyd yn dangos sut y gallai’r cyfryw anafiadau gael eu rhwystro drwy roi sylw i’r ffactorau risg gwaelodol.  Prif achosion marwolaethau drwy anafiadau yn Ewrop yw traffig ar y ffyrdd, boddi, gwenwyno, cwympiadau, a thanau, gyda bechgyn yn dioddef tri o bob pedwar o farwolaethau drwy anafiadau.

Y mae’r adroddiad yn amlygu nid yn unig y gost anferth i deuluoedd a chymdeithas oherwydd anafiadau damweiniol i blant a phobl ifanc, ond hefyd pa mor gost-effeithiol yw mesurau atal anafiadau.  Am bob punt a fuddsoddir mewn larymau mwg, fe amcangyfrifir mai’r arbediad i gymdeithas yw £69, tra bod bob punt a warir ar gyngor atal damweiniau oddi wrth ymarferwyr yn arbed £10 i gymdeithas.

Yng Nghymru, y mae yna gyfartaledd o 47 o blant yn marw bob blwyddyn o anafiadau anfwriadol, ac y mae mwy na 145,000 yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys.  Y mae Plant yng Nghymru yn gweithio tuag at leihau nifer yr anafiadau yng Nghymru, ac fe wnaethant ymgynghori ynglŷn â Chynllun Gweithredu ar Ddiogelwch Plant yn ystod haf 2008.  Y mae’r cynllun hwn yn cynnwys amryw o argymhellion sydd â’r nod o roi sylw i achosion anafiadau yng Nghymru, yr eir â hwynt yn awr at Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Fe ddywedodd Karen McFarlane, Swyddog Datblygu Diogelwch Plant yn Plant yng Nghymru: "Yng Nghymru, yr ydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn niferoedd yr anafiadau ar y ffyrdd yn y blynyddoedd diwethaf.  Fodd bynnag, y mae nifer yr anafiadau yn y cartref yn parhau yn eu hunfan.  Y mae’r mwyafrif o’r anafiadau hyn yn rhai y mae modd eu hosgoi, ac un o’n hargymhellion yw buddsoddi mewn cyngor i rieni ynglŷn â sut i atal y damweiniau hyn.  Y mae’r adroddiad hwn yn ategu’r effaith arwyddocaol y gallai’r gwasanaethau hyn ei chael."

Nodiadau:

1.      Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Fe sefydlwyd Plant yng Nghymru ym mis Mawrth 1992 ac fe ddaeth yn elusen gofrestredig yn 1993.  Eu nod yw hyrwyddo buddiannau plant, gwella gwasanaethau yng Nghymru a rhoi plant yn uchel ar yr agenda Gymreig.  Yr ydym yn gweithio’n agos gyda’n haelodau, sy’n cynnwys gweithwyr proffesiynol, llunwyr polisi a grwpiau defnyddwyr, i wella bywydau’r holl blant sy’n byw yng Nghymru, ond yn enwedig plant ieuainc, y sawl yr effeithir arnynt gan ansefydlogrwydd teuluol, plant sydd ag anghenion arbennig neu anableddau, a’r sawl sy’n dioddef effeithiau tlodi ac amddifadedd.  Yr ydym yn casglu ac yn lledaenu gwybodaeth am blant ac yn hyrwyddo ymarfer da mewn gwasanaethau plant drwy ymchwil, datblygu polisi ac ymarfer, cyhoeddiadau, cynadleddau, seminarau, hyfforddiant a mynediad i wasanaeth llyfrgell a gwybodaeth helaeth.  Y mae gan Plant yng Nghymru swyddfeydd yng Nghaerdydd a Chaernarfon.

2.      Y mae dolenni i adroddiadau Sefydliad Iechyd y Byd, "European report on child injury prevention" a "World report on child injury prevention", ar gael ar wefan Plant yng Nghymru: www.plantyngnghymru.org.uk/areasofwork/childsafety

3.      Y mae Plant yng Nghymru wedi datblygu "Tuag at Gynllun Gweithredu i Gymru ar Ddiogelwch Plant".  Y mae’r gwaith wedi’i gefnogi gan Cefnogi Cydweithredu er mwyn Lleihau Damweiniau a Rheoli Anafiadau a’r Ymddiriedolaeth Atal Damweiniau i Blant a’r Gymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau.  Fe ariannir y project gan Her Iechyd Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Fe ellir lawrlwytho’r Cynllun, Tuag at Gynllun Gweithredu i Gymru ar Ddiogelwch Plant, oddi ar wefan Plant yng Nghymru: www.plantyngnghymru.org.uk/publications.  
 

4.      I gael rhagor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Karen McFarlane: Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd; Ffôn: 029 2034 2434, E-bost: Karen.mcfarlane@childreninwales.org.uk

Methu â chanfod yr hyn ‘rydych yn chwilio amdano? show/hide
Ein Gwaith
  • Eiriolaeth
  • Adroddiadau Blynyddol
  • Materion Lloches, Ffoaduriaid ac Ymfudo
  • Atal Damweiniau Plant
  • Tlodi Plant
  • Hawliau Plant
  • Anabledd
  • Blynyddoedd Cynnar
  • Digwyddiadau
  • Gwasanaethau Gwybodaeth
  • Magu Plant
  • Cyfranogaeth
  • Datganiad i’r Wasg
  • Hyfforddiant
  • Gofalwyr Ieuainc
Yn Eich Ardal
  • Prosiectau Eiriolaeth yng Nghymru
  • Cynlluniau Plant a Phobl Ifanc
  • Prosiectau Anabledd
  • Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd
  • Cysylltiadau Iechyd
  • Canolfannau Integredig Cymru
  • Rhwydwaith Gofalwyr Ieuainc
Cysylltu a Ni

Prif Swyddfa: 25 Plas Winsor, Caerdydd, CF10 3BZ, Ffôn: (029) 2034 2434, Ffacs: (029) 2034 3134

Swyddfa Gogledd Cymru, Doc Fictoria, Caernarfon, LL55 1TH, Ffôn: (01286) 677570,

E-bost: info@childreninwales.org.uk

Dilynwch Plant yng Nghymru ar Twitter
Cadw Plant yn Ddiogel Rhag Niwed, 10/12/08

Mae Plant yng Nghymru yn gyd-noddwr yn y
prosiect Cyrraedd y Nod yn cymorth pobl ifanc i
ennill sgiliau ar gyfer dysgu a chyflogaeth drwy
brofiad gwaith a chyfleoedd sydd wedi’u seilio
yn y gymuned.

  • Map o'r Safle
  • |
  • Telerau ac Amodau
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2010. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313
Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence