Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    Plant yng Nghymru yn y newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »Arwr Criced i Siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni, 16/10/08
Arwr Criced i Siarad yng Nghynhadledd Wythnos Rhieni, 16/10/08

Fe fydd Robert Croft, arwr criced a thad, yn siarad mewn cynhadledd i nodi Wythnos Rhieni ym Maes Sioe Frenhinol Cymru ar y 23ain o Hydref.

Fe fydd y gynhadledd, "Cyrraedd y Nod i Deuluoedd?", yn gweld lansio canllawiau newydd ar gyfer cynnwys tadau mewn gwasanaethau blynyddoedd cynnar. Y mae'r canllawiau, sydd wedi'u comisiynu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn ystyried amryw o faterion sy'n effeithio ar gynnwys tadau mewn gwasanaethau, ac yn darparu ystod o astudiaethau achos sy'n dangos yr hyn sydd wedi gweithio'n dda. 

Yn ogystal â'r cyn-gricedwr rhyngwladol, fe fydd cynrychiolwyr yn clywed oddi wrth lefarwyr, yn cynnwys Jane Hutt, y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, a Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru.

Fe fydd y gynhadledd yn tynnu ynghyd lunwyr polisi a gweithwyr proffesiynol i edrych ar bolisi cymorth i deuluoedd yng Nghymru.  Fe fydd yn canolbwyntio ar y wybodaeth a ddarperir i deuluoedd a sut y gellir gwella hyn.

Y mae'r gynhadledd yn cael ei threfnu ar y cyd gan Plant yng Nghymru a'r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Cymru.

 

Nodiadau:

1.      Fe gynhelir y Gynhadledd 'Cyrraedd y Nod i Deuluoedd?' ddydd Iau, y 23ain o Hydref 2008, 9.45 y bore - 4.00 y pnawn ym Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd.

2.      Fe ellir cael y canllawiau, "Cynnwys Tadau mewn Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar: Arferion Cadarnhaol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol", oddi wrth Plant yng Nghymru, Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434.  Fe fyddant ar gael ar wefan Plant yng Nghymru  www.childreninwales.org.uk/publications o'r 23ain o Hydref, 2008.

3.      Plant yng Nghymru yw'r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.childreninwales.org.uk

4.      Y mae Cymdeithas Genedlaethol Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (NAFIS) yn elusen gofrestredig sy'n cefnogi, yn cysylltu ac yn hyrwyddo Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd (FIS) ym Mhrydain Fawr. www.familyinformationservices.org.uk

Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i'r wasg, cysylltwch â Lucy Akhtar neu Tony Ivens: Plant yng Nghymru, 25, Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, E-bost:  lucy.akhtar@childreninwales.org.uk  neu  tony.ivens@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313