Logo
  • Cartref |
  • Map o'r Safle |
  • Telerau ac Amodau |
  • Cysylltu a Ni |
  • English
  • Aelodaeth |
  • Newyddion |
  • Amdanom Ni |
  • Ein Gwaith |
  • Meysydd Gwaith
     
  • Cyhoeddiadau |
  • Digwyddiadau |
  • Polisi |
  • Yn Eich Ardal |
  • Confensiwn y CU |
  • Cysylltiadau
Chwilio

Chwilio Manwl

Aelodau i Fewngofnodi
Wedi anghofio’ch cyfrinair? Cliciwch yma

Is-Dudalennau

  • Newyddion
    » Press Releases

Archif/Cyfredol

Blwyddyn Archifol
Yr ydych yn : Newyddion »Press Releases »5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain
5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain

Datganiad i’r Wasg

29 Medi 2008

5 diwrnod yn weddill: Pobl ifanc o Gymru yn ymuno â Rali Dileu Tlodi ymysg Plant yn Llundain

Fe fydd teuluoedd o bob cwr o Gymru ymysg miloedd fydd yn gorymdeithio drwy Lundain y penwythnos hwn, yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gadw’i haddewid ynglŷn â dileu tlodi ymysg plant.  Fe addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010 ond y maent mewn gwir berygl o fethu â chyrraedd y targed hwn.  Yn yr hinsawdd economaidd gyfredol, y mae’n neilltuol o bwysig bod y Llywodraeth yn gweithredu’n eofn yn awr i sicrhau gwell dyfodol i’n plant i gyd.

Y mae gan y Deyrnas Unedig un o’r cyfraddau uchaf o dlodi ymysg plant yn Ewrop, er gwaethaf y ffaith mai hi yw’r bumed genedl gyfoethocaf.  Yng Nghymru, y mae bywydau 29 y cant o blant yn cael eu difetha gan dlodi.

I ddangos i’r Llywodraeth bod y cyhoedd yn wirioneddol bryderus ynglŷn â thlodi ymysg plant, fe fydd plant, pobl ifanc a theuluoedd yn ymgynnull ym Millbank o 11:30 y bore ar y 4ydd o Hydref, cyn gorymdeithio i Sgwâr Trafalgar.  Am 2.00 y pnawn, fe fydd yna funud pan ofynnir i bawb wneud cymaint o sŵn â phosibl i sicrhau bod Stryd Downing yn clywed y neges.

Y mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan yr Ymgyrch i Ddileu Tlodi ymysg Plant, sef clymblaid o fwy na 120 o elusennau, undebau llafur, grwpiau ffydd a sefydliadau eraill, y mae Plant yng Nghymru’n aelod ohonynt.

Fe ddywed Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi dros Plant yng Nghymru: "Ddydd Sadwrn hwn, fe fydd y Deyrnas Unedig yn dyst i’r digwyddiad mwyaf erioed i ddileu tlodi ymysg plant yn y wlad hon a’i fwriad yw anfon neges eglur i Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fydd y lefelau cyfredol o dlodi ymysg plant yn cael eu goddef mwyach.  Y mae’r rali yn addo bod yn achlysur sy’n addas i’r teulu, ac yr ydym yn edrych ymlaen at weld llawer o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd o bob cwr o Gymru’n cymryd rhan.  Y mae yna neges ddifrifol, wrth gwrs, ac yr ydym yn ailadrodd ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i wario ond £3 biliwn i barhau ar y trywydd iawn ac i gyrraedd y targed o haneru tlodi ymysg plant erbyn 2010."

Y mae Plant yng Nghymru’n cynorthwyo i gydlynu’r gwaith o gynnwys pobl o Gymru yn y rali, ochr yn ochr â’n partneriaid, fel rhan o Rwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru.  Y mae bysiau o Gymru’n cael eu trefnu gan Achub y Plant.

Nodiadau:

1.      Fe fydd yr orymdaith Cadwch yr Addewid, a drefnwyd gan yr Ymgyrch i Ddileu Tlodi ymysg Plant, yn digwydd ddydd Sadwrn, y 4ydd o Hydref 2008 yn Llundain.

2.      Plant yng Nghymru yw’r sefydliad ymbarél cenedlaethol ar gyfer sefydliadau gwirfoddol, statudol a phroffesiynol ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. www.childreninwales.org.uk

3.      Y mae Plant yng Nghymru’n cydlynu Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru, clymblaid o gonsyrn sy’n canolbwyntio ar ddileu tlodi ymysg plant yng Nghymru. www.endchildpovertycymru.org.uk

4.      Am ragor o wybodaeth parthed y datganiad hwn i’r wasg, cysylltwch â Sean O’Neill: Plant yng Nghymru, 25 Plas Winsor, Caerdydd, Ffôn: 029 2034 2434, Ffôn Symudol: 07887 947207 , E-bost: sean.oneill@childreninwales.org.uk

Cynlluniwyd a datblygwyd gan Sequence
Hawlfraint Plant yng Nghymru 2005-07. Elusen Gofrestredig Rhif: 1020313